Aelod Annibynnol o’r Bwrdd
- Location
- Llandudno
- Salary
- £9,360 y flwyddyn
- Posted
- 17 May 2017
- Closes
- 02 Jun 2017
- Ref
- 225215594-01
- Sectors
- Health, Nursing & Social Care, NHS, Public Sector
- Contract Type
- Contract
- Hours
- Full Time
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bodoli er mwyn diogelu a gwella iechyd a lles pobl Cymru a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Gan weithio ar draws sectorau, rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd, tegwch ac effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus a chefnogi’r GIG yn ehangach yng Nghymru i wella canlyniadau i gleifion.
Aelod Annibynnol o’r Bwrdd
Bydd y tâl yn cyfateb i £9,360 y flwyddyn
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a deinamig - rhywun y mae’r nod o wneud Cymru yn lle iachach, hapusach a thecach i fyw ynddo yn agos at ei galon - i ymuno â’n sefydliad, sy’n prysur ehangu, fel Aelod Annibynnol o’r Bwrdd. Fel sefydliad cenedlaethol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr amrywiaeth o bobl sy’n aelodau o’n Bwrdd yn gynrychioliadol o Gymru, ei chymunedau a’i phroffil dwyieithog. Felly, ar gyfer y swydd hon, mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Er bod sgiliau Cymraeg yn hafodol, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr a all ddysgu Cymraeg I’r safon ofynnol os cant eu penodi.
Mae Aelodau Annibynnol o’r Bwrdd yn gweithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwyr Gweithredol i ddatblygu cyfeiriad strategol, fframwaith llywodraethu corfforaethol a diwylliant sefydliadol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddant hefyd yn cyfrannu at agenda Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy ddatblygu perthnasoedd gwaith da, gan ddwyn y Cyfarwyddwyr Gweithredol i gyfrif a chyflwyno barn annibynnol i’r Bwrdd.
Mae iechyd cyhoeddus yn effeithio ar bawb felly rydym yn gwahodd ceisiadau gan bobl o gefndiroedd sy’n cynrychioli amrywiaeth poblogaeth Cymru. Nid yw profiad blaenorol o fod yn Aelod Annibynnol o Fwrdd yn hanfodol, ond byddai diddordeb brwd yn yr agenda iechyd leol a chenedlaethol o fantais. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Penodir Aelodau Annibynnol o’r Bwrdd am gyfnod cychwynnol o hyd at bedair blynedd. Mae’r swydd yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiannol o bedwar diwrnod y mis o leiaf. Bydd y tâl yn cyfateb i £9,360 y flwyddyn.
I wneud cais, ewch i’n gwefan gan y botwm “Gwneud cais” ar y dudalen hon.
Y dyddiad cau yw 02 Mehefin 2017.
Mae modd cael fersiwn print bras, Braille neu sain o’r hysbyseb hwn ar gais drwy ffonio 029 2082 5454.