APPOINTMENT OF A VICE CHAIR AND INDEPENDENT MEMBERS

Location
Aberystwyth, Ceredigion (Sir Ceredigion)
Salary
Competitive
Posted
15 May 2017
Closes
02 Jun 2017
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

APPOINTMENT OF A VICE CHAIR AND INDEPENDENT MEMBERS TO ABERTAWE BRO MORGANNWG UNIVERSITY HEALTH BOARD

We have some exciting opportunities to help shape the future of health care in NHS Wales through undertaking the role of a Vice- chair or an Independent Member to Abertawe Bro Morgannwg University Health Board, so why not show that you have the ability to make a real difference in health service provision to the people of Wales.

We are recruiting for 1 Vice - Chair and 3 Independent Member roles in Abertawe Bro Morgannwg University Health Board.  Details of the roles are below.  If you have a genuine desire to play a full and active role in the governance of a Health Board or NHS Trust and to make a real difference to the lives of the people of Wales, we would like to hear from you.

In order to meet the challenge of making a contribution to local health service provision in line with the strategic direction of NHS Wales in the Bridgend, Swansea and Neath Port Talbot areas, we are looking for a dynamic individual to undertake the role of the Vice – Chair of Abertawe Bro Morgannwg University Health Board. You will have experience of leading and developing successful private, public or third sector organisations, an understanding of the health issues and priorities in the Health Board’s area, the ability to work with executives ensuring the effective Board leadership of the organisation, the ability to contribute to the governance of the Health Board and experience of working within communities and multi-disciplinary teams.

We are also looking to recruit Independent Board Members with a knowledge and understanding of; Local Authority, Third Sector and Trade Union matters in the area served by Abertawe Bro Morgannwg University Health Board and the ability to apply your knowledge and understanding in a strategic board environment. You will also play a full and active role in the corporate and clinical governance of the health board, work closely with other public, private and voluntary organisations and contribute to the “governance and finance” of the Health Board ensuring its openness and honesty by contributing fully to the board’s decision making processes.

For the Trade Union Independent Member you will be a member of trade union and will be a current employee of Abertawe Bro Morgannwg University Health Board.

For the Local Authority Independent Member you must be an elected member of a local Authoirity whose area is within Abertawen Bro Morgannwg.

Why not utilise your skills and experience to make a contribution? NHS Wales is currently looking for an Independent Member to undertake the following role:-

Vice - chair

  • Abertawe Bro Morgannwg University Board (1 post) – Vice - Chair

Independent Member

  • Abertawe Bro Morgannwg University Board – Serving Bridgend, Swansea, Neath, Port Talbot - (3 post) – Trade Union  Independent Member, Local Authority Independent Member and Third Sector Independent Member

The appointment will be made on merit although consideration will be given to the need to establish a balanced skills mix.

The Vice-Chair of will be appointed for up to a four (4) year period. The post of Vice-Chair is based on a notional time commitment of a minimum of thirteen (13) days per month subject to organisational demands.

The Independent Members will be appointed for up to a four (4) year period. The post of Independent Members are based on a notional time commitment of a minimum of four (4) days per month subject to organisational demands, but is often higher then the minimum requirement.

We are particularly interested in hearing from under-represented groups such as women, disabled people and ethnic minority individuals and the skills you have to make a contribution in these roles. For more information or to apply go to our website by clicking the apply button.

Please note that the closing date is 2 June 2017.

 

PENODI IS-GADEIRYDD AC AELODAU ANNIBYNNOL I FWRDD IECHYD GIG CYMRU

Mae gennym gyfle cyffrous i helpu i lywio dyfodol gofal iechyd yn GIG Cymru trwy ymgymryd â rôl Is-Gadeirydd neu Aelod Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Felly, beth am ddangos bod gennych y gallu i wneud gwahaniaeth o bwys ym maes darpariaeth gwasanaethau iechyd i bobl Cymru.

Rydym am recriwtio 1 Is-gadeirydd a 3 o Aelodau Annibynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae manylion y rolau wedi’u nodi isod. Os oes gennych awydd gwirioneddol i gyflawni rôl lawn a gweithgar yn y gwaith o lywodraethu Bwrdd Iechyd neu un o Ymddiriedolaethau’r GIG, ac i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru, byddem yn falch o glywed gennych.

Er mwyn ymateb i’r her o gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd lleol yn unol â chyfeiriad strategol GIG Cymru yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot, rydym yn chwilio am unigolyn deinamig i ymgymryd â rôl Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Bydd gennych brofiad o arwain a datblygu sefydliad yn llwyddiannus yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, ynghyd â dealltwriaeth o faterion a blaenoriaethau iechyd yn ardal y Bwrdd Iechyd; yn ogystal â’r gallu i weithio gyda swyddogion gweithredol gan sicrhau bod y Bwrdd yn rhoi arweinyddiaeth effeithiol i’r sefydliad; y gallu i gyfrannu at y gwaith o lywodraethu’r Bwrdd Iechyd; a’r profiad o weithio o fewn cymunedau a thimau aml-ddisgyblaeth.

Rydym hefyd yn awyddus i recriwtio Aelodau Annibynnol i’r Bwrdd sydd ag arbenigedd ym meysydd Awdurdod Lleol, Trydydd Sector ac Undebau Llafur yn yr ardal a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Yn bennaf, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth glir o’ch maes arbenigol a’r gallu i gymhwyso’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth hyn mewn amgylchedd bwrdd strategol. Byddwch yn chwarae rôl lawn a gweithgar yn y gwaith o lywodraethu’r bwrdd iechyd ar yr ochr gorfforaethol a’r ochr glinigol, gan weithio’n agos gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat, a gwirfoddol eraill.

Byddwch hefyd yn cyfrannu at faterion sy’n ymwneud â llywodraethu a chyllid y bwrdd iechyd, gan sicrhau ei fod yn gweithio mewn modd agored a gonest drwy gymryd rhan lawn yn ei brosesau penderfynu.

Ar gyfer rôl yr Aelod Annibynnol Undeb Llafur, byddwch yn aelod o undeb llafur a byddwch yn weithiwr cyflogedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Ar gyfer rôl yr Aelod Annibynnol Awdurdod Lleol, rhaid i chi fod yn aelod etholedig o awdurdod lleol a bod yr ardal a wasanaethir gan yr awdurdod lleol hwnnw o fewn Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

Felly, beth am ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i wneud cyfraniad i’r gwaith hwn. Ar hyn o bryd, mae GIG Cymru yn chwilio am Is-gadeirydd ac Aelodau Annibynnol ar gyfer y rolau canlynol:-

Is-gadeirydd

  • Bwrdd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (1 swydd) – Is-gadeirydd

Aelodau Annibynnol

  • Bwrdd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg – yn gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot -  (3 swydd) – Aelod Annibynnol Undeb Llafur, Aelod Annibynnol Awdurdod Lleol, Aelod Annibynnol Trydydd Sector.

Penodir ymgeiswyr yn ôl teilyngdod, er y bydd yr angen i sicrhau cymysgedd cytbwys o sgiliau yn cael ei ystyried.

Bydd yr Is-gadeirydd yn cael ei benodi am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd. Mae swydd yr Is-gadeirydd yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiannol a fydd o leiaf un deg tri (13) o ddiwrnodau’r mis, yn amodol ar y galwadau sefydliadol.

Bydd yr Aelodau Annibynnol yn cael eu penodi am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd. Mae swyddi’r Aelodau Annibynnol yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiannol a fydd o leiaf pedwar (4) diwrnod y mis yn amodol ar y galwadau sefydliadol, ond a fydd yn aml yn fwy na’r gofyniad sylfaenol.

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan ymgeiswyr o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, megis menywod, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig, ac am y sgiliau sydd gan yr ymgeiswyr hyn i wneud cyfraniad pe baent yn ymgymryd â’r rolau hyn. I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/

neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth y Cyd-wasanaethau yn Llywodraeth Cymru, naill ai drwy e-bostio: sharedservicehelpdesk@wales.gsi.gov.uk  neu drwy ffonio: 029 2082 5454.

Y dyddiad cau yw 2 Mehefin 2017.

Mae fersiynau print mawr, Braille neu sain o’r hysbyseb hon ar gael ar gais drwy ffonio 029 2082 5454.