Aelodau Annibynnol

Location
Pen-y-bont ar Ogwr
Salary
Cystadleuol
Posted
15 May 2017
Closes
26 May 2017
Ref
225212142-02
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Comisiynydd Yr Heddlu a Throseddu De Cymru
Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru

Penodi Aelodau o’r Cyd-Bwyllgor Archwilio

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn awyddus i gael ceisiadau ar gyfer penodi Aelodau Annibynnol o’r Cyd-Bwyllgor Archwilio.

Rôl y Pwyllgor
Yn unol â goblygiadau statudol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf yr Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 a Chod Ymarfer Rheolaeth Ariannol y Swyddfa Gartref, sefydlwyd y Cyd-Bwyllgor Archwilio i ddarparu swyddogaeth sicrwydd annibynnol o ran y trefniadau ar gyfer llywodraethu ariannol ar gyfer y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl.

Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ddarparu swyddogaeth sicrwydd annibynnol o ran y trefniadau ar gyfer llywodraethu ariannol ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru. Mae hyn yn cynnwys sicrwydd ar berfformiad ariannol a pherfformiad nad yw’n ariannol lle mae goblygiad i fod yn agored i risg neu lle gall fod gwendid yn yr amgylchedd rheolaeth mewnol. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn sefydlu “Panel yr Heddlu a Throseddu”, sy’n gyfrifol am oruchwylio Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac adolygu a chraffu ar ei benderfyniadau. Mae’r Pwyllgor yn derbyn adroddiadau gan yr archwilwyr mewnol, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, sydd wedyn llunio adroddiadau i’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl ar gryfder yr amgylchedd rheolaeth fewnol.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn cefnogi polisi o gyfle cyfartal a byddai’n croesawu ceisiadau gan bob unigolyn cymwys, waeth beth fo’i ryw, tarddiad ethnig, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd, fel bod aelodaeth o’r Cyd-Bwyllgor Archwilio yn adlewyrchu cymunedau De Cymru.

Y Broses Ymgeisio
Mae pecyn gwybodaeth a ffurflen gais ar gael drwy ein gwefan gan y botwm “Gwneud cais” ar y dudalen hon.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar 26 Mai, 2017, a chynhelir y broses ddethol yn ystod mis Mai neu Mehefin 2017.