Ymchwilydd / Rheolydd Ymchwil, Y Ganolfan Asesu
Ymchwilydd / Rheolydd Ymchwil, Y Ganolfan Asesu
Graddfa gyflog: £29,536 - £38,537 y flwyddyn; graddfa ar sail cymwysterau a phrofiad.
- Cytundeb cyfnod penodol (o leiaf 12 mis); croesawir ceisiadau am secondiad.
- Swydd wedi’i lleoli ym mhrif swyddfa NFER yn Slough neu yn Abertawe (gweithio weithiau o gartref a/neu oriau hyblyg yn bosibl)). Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio i Abertawe/Slough yn achlysurol.
Dyma gyfle datblygiad proffesiynol cyffrous i athro/awes mathemateg uwchradd ymuno â’r prif ddarparwr annibynnol ar gyfer ymchwil, asesu a gwasanaethau gwybodaeth ym myd addysg yn y DU.
Mae NFER yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr o bob oedran drwy wella arfer a dealltwriaeth. Mae’r Ganolfan Asesu yn ymwneud â phob agwedd ar asesu, o ddatblygu profion hollbwysig sy’n monitro safonau cenedlaethol, i greu adnoddau asesu a chwricwlwm ar gyfer athrawon i’w defnyddio i olrhain cynnydd yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal ymchwil sy’n ymwneud ag asesu yn ogystal â chynhyrchu arweiniad i ysgolion ar bolisi asesu a’r cwricwlwm.
Prif ddyletswyddau’r swydd hon yw:
- datblygu cwestiynau / profion (asesu papur ac arlein)
- cynnal ymchwil asesu
- cyfrannu at ddatblygu ceisiadau ymchwil.
Mae profiad addysgu mathemateg / rhifedd uwchradd yn y DU, sgiliau trefnu ardderchog, agwedd drylwyr at waith, gan roi sylw manwl i gywirdeb a sgiliau ysgrifennu rhagorol yn hanfodol.
Mae profiad o farcio profion cenedlaethol/pwysig a’r gallu i gyfathrebu’n rhugl ac yn gywir (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn y Gymraeg yn ddymunol iawn.
Cynigir cyfleoedd hyfforddi mewn ystod o sgiliau ymchwil ac asesu.
Elusen gofrestredig yw NFER ac yn gyflogwr cyfle cyfartal sy’n croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned. Mae’r buddiannau o weithio i’r Sefydliad yn cynnwys: 30 diwrnod o wyliau â thâl yn ogystal â Gwyliau Banc a dyddiau achlysurol, trefniadau pension hael ac ymrwymiad cadarn i ddatblygiad staff.
Lleolir swyddfa Slough ar safle bendigedig tua milltir o ganol y dref â chysylltiadau trafnidiaeth campus – yn agos i’r M4 a’r M40 a gorsaf Paddington tua 15 munud ar y trên.
Lleolir swyddfa NFER Cymru ar gampws Townhill, PCYDDS, Abertawe, SA2 0UT.
I gael manylion pellach a ffurflen gais ewch i wefan NFER http://www.nfer.ac.uk/about-nfer/careers/ neu e-bostiwch hr@nfer.ac.uk
Noder: Mae’r swydd hon wedi’i heithrio o’r ‘Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr’; ceir rhagor o fanylion am drefniadau gwirio Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd NFER (DBS) yn y ddogfen Manylion Pellach ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 12 o’r gloch (ganol dydd) ddydd Mercher 17 Mai 2017
Cyfweliadau: w/d 5 Mehefin 2017
Rhif elusen gofrestredig 313392 IiP logo