Swyddog Clercyddol
- Recruiter
- Bangor University*
- Location
- Llandudno
- Salary
- £18,940 p.a. (ar Radd 4)
- Posted
- 27 Apr 2017
- Closes
- 12 May 2017
- Ref
- 225200125-01
- Contract Type
- Temporary
- Hours
- Full Time
Swyddog Clercyddol
(Cyf: BU01307)
Gyflog: £18,940 p.a. (ar Radd 4)
Rydym yn chwilio am swyddog clercyddol profiadol a chymwys i ymuno â’n tîm Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i helpu i weinyddu portffolio gwerth miliynau o bunnoedd o grantiau ymchwil a chontractau a gyllidir gan yr UE ac i weinyddu system amserlen electronig projectau.
Byddai profiad o weithio gyda Chronfeydd Strwythurol yr UE a systemau amserlen electronig yn arbennig o werthfawr, ond mae profiad o weithio mewn swyddogaeth gysylltiedig â chyllid yn hanfodol, ynghyd â gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office a systemau cyfrifon ariannol. Bydd y gwaith yn golygu rhoi cefnogaeth weinyddol o ddydd i ddydd i’r tîm cyfrifon Cronfeydd Strwythurol, yn cynnwys: cefnogaeth weinyddol wrth baratoi ac archwilio ceisiadau am grant ac wrth roi adroddiadau ariannol projectau; cofnodi gwybodaeth ariannol yn y system cyfrifon ariannol; cynnal systemau i reoli’r cofnodion ariannol; ac arwain o ran gweinyddu system amserlen y project.
Mae’r swydd ar gael tan 22/12/2017 dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth.
Ariennir y cynllun yma yn rhannol gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru. Cronfeydd UE: Buddsoddi yng Nghymru.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosibl. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn ddymunol.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio gan y “Gwneud cais” botwm ar y dudalen hon.
Ond mewn achosion lle ceir trafferth i ddefnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: dydd Gwener 12 Mai, 2017.
Wedi Ymrwymo I Gyfle Cyfartal