Caseworker

Location
Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
Salary
Cardiff and the surrounding area
Posted
27 Apr 2017
Closes
10 May 2017
Sectors
Legal
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Caseworker – County Lines (Ref: CLC – 171)

Salary: £22,526 - £30,476 per annum

Contract: FT contract – 3 Years

Location: Cardiff and the surrounding area

Closing date: 10 May 2017

Does your experience of engaging positively with young offenders or other vulnerable groups include assessing needs and providing support, advice and advocacy? Are you ready for a working life that’s varied and rewarding and provides an opportunity for both personal and professional growth? Then join us as a Caseworker and you could soon be putting your understanding of the issues involved to excellent use.

A well-established charity that helps ex-offenders and disadvantaged people to move their lives forward, St. Giles Trust offers support to help people overcome any issue that might be holding them back. ‘County Lines’ is a service that supports those caught up in drug distribution networks which employ children and young people as couriers and street based distributors. We also work with other identified young people involved in serious youth violence and/or the criminal justice system and their families in the community. The post is based in Cardiff, with hot desking at partner organisations, and will involve travel to clients’ homes, London and other areas. This is a BBC Children in Need funded project.

What you will be doing:

  • Identifying vulnerable individuals aged under 18 who have been involved in, or are at risk of being involved in, County Lines, serious youth violence or gang related activity.
  • Engaging with and assessing identified clients, both while they are in custody and in the community, and producing support plans and risk assessment plans.
  • Providing a holistic and practical support service that includes social and housing support, accompanying to appointments, ETE options, benefits work, debt advice, liaising with utilities and help with obtaining furniture.
  • Continuing to engage with them when their sentence finishes, providing support in the community to help them avoid re-offending and linking them with statutory and voluntary services in their home area.
  • Developing and maintaining relationships with referral agencies, thus ensuring a steady flow of appropriate referrals onto the scheme.
  • Assisting with the monitoring and evaluation of the project and closing cases efficiently and positively, having identified a survival plan for the client involved.

 

 

And what you will need:

  • The ability to close cases effectively and positively, identifying/creating a survival plan that will not necessarily be in Wales. 
  • Knowledge of services for offenders and patterns of offending in South Wales and experience of the criminal justice system/working on an offender-led support project, or experience of serving a prison sentence.
  • The people skills to engage successfully with challenging individuals, for example those with complex needs, who are reluctant to discuss their needs and/or angry and confused.
  • A proven ability to calculate risk and implement safety procedures when engaging with clients in their homes as well as in public premises and to promote safeguarding among vulnerable clients and colleagues.
  • An understanding of the need to use support plans to enable people to successfully access accommodation and support services.
  • Experience of negotiating with partner agencies to establish links to further the aims of a project and developing and using monitoring systems to record all aspects of a project, including actions, outcomes and referrals
  • A flexible approach, a commitment to working collaboratively with managers and staff to set and deliver organisational goals and resolve conflicts of interest professionally.

In return you can expect a competitive salary and generous leave allowance, staff pension scheme, flexible working, a mentoring programme, an advice & counseling service, childcare vouchers, season ticket loan and much more besides.

For further information or to apply please visit our website.

Gweithiwr Achosion – County Lines (Cyf: CLC – 171)

£22,526 - £30,476 y flwyddyn

Contract: contract amser-llawn – 3 blynedd

Caerdydd a’r cyffiniau

Dyddiad cau: 10 Mai 2017

Ydy’ch profiad chi o ymwneud yn gadarnhaol â throseddwyr ifanc neu grwpiau eraill sy’n agored i niwed yn cynnwys asesu anghenion a rhoi cymorth, cyngor ac eiriolaeth? Ydych chi’n barod am fywyd gwaith sy’n amrywiol a difyr ac yn cynnig cyfle ichi dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol? Yna dewch i ymuno â ni fel Gweithiwr Achosion ac fe allech fod wrthi’n fuan yn rhoi eich dealltwriaeth o’r materion ar waith mewn ffordd ragorol.

Mae Ymddiriedolaeth St. Giles yn elusen gydnabyddedig ers tro byd sy’n helpu cyn-droseddwyr a phobl ddifreintiedig i symud eu bywydau ymlaen, gan gynnig cymorth i helpu pobl i ddod dros unrhyw fater a allai fod yn eu dal yn ôl. Mae ‘County Lines’ yn wasanaeth sy’n helpu’r rhai sydd wedi’u dal mewn rhwydweithiau dosbarthu cyffuriau sy’n defnyddio plant a phobl ifanc yn negeseuwyr a dosbarthwyr ar y stryd. Rydym yn gweithio hefyd gyda phobl ifanc eraill sy’n ymwneud â thrais ifanc difrifol a/neu’r system cyfiawnder troseddol a’u teuluoedd yn y gymuned. Lleolir y swydd yng Nghaerdydd, gyda threfniant desg boeth mewn sefydliadau partner, a bydd yn golygu teithio i gartrefi cleientau, Llundain ac ardaloedd eraill. Swydd sy’n cael ei hariannu gan Blant mewn Angen y BBC yw hon.

Yr hyn y byddwch yn ei wneud:

  • Nodi unigolion agored i niwed sydd o dan 18 oed ac sy’n ymwneud â County Lines, trais ifanc difrifol neu weithgareddau gang neu sydd mewn perygl o ymwneud â’r rhain.
  • Ymgysylltu â’r cleientau a nodwyd a’u hasesu, yn y ddalfa ac yn y gymuned, a llunio cynlluniau cymorth a chynlluniau asesu risg.
  • Darparu gwasanaeth cymorth holistig ac ymarferol sy’n cynnwys cymorth cymdeithasol a chymorth tai, mynd i apwyntiadau, opsiynau ETE, gwaith ar fudd-daliadau, cyngor ar ddyledion, cydgysylltu â chyfleustodau a help i sicrhau dodrefn.
  • Parhau i ymgysylltu â nhw pan ddaw eu dedfryd i ben, gan roi cymorth yn y gymuned i’w helpu i osgoi aildroseddu a’u rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau statudol a gwirfoddol yn ardal eu cartref.
  • Datblygu a chynnal perthynas ag asiantaethau atgyfeirio, gan sicrhau llif cyson o atgyfeiriadau at y cynllun.
  • Helpu i fonitro a chloriannu’r prosiect a chau achosion yn effeithlon ac yn gadarnhaol, ar ôl nodi cynllun goroesi i’r cleient.

 

 

Yr hyn y bydd arnoch ei angen:

  • Y gallu i gau achosion yn effeithiol ac yn gadarnhaol, gan nodi/creu cynllun goroesi na chaiff ei leoli yng Nghymru o reidrwydd. 
  • Gwybodaeth o wasanaethau i droseddwyr a phatrymau troseddu yn y De a phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol/gweithio ar brosiect cymorth dan arweiniad troseddwyr, neu brofiad o ddedfryd yn y carchar.
  • Y sgiliau personol i ymwneud yn llwyddiannus ag unigolion anodd, er enghraifft y rhai sydd ag anghenion cymhleth, sy’n anfodlon trafod eu hanghenion a/neu sy’n grac ac wedi drysu.
  • Gallu cydnabyddedig i bwyso a mesur risg a defnyddio gweithdrefnau diogelu wrth ymwneud â chleientau yn eu cartrefi yn ogystal ag mewn mannau cyhoeddus a hybu diogelu ymysg cleientau a chydweithwyr sy’n agored i niwed.
  • Dealltwriaeth o’r angen i ddefnyddio cynlluniau cymorth i alluogi pobl i gael gafael yn llwyddiannus ar lety a gwasanaethau cymorth.
  • Profiad o negodi gydag asiantaethau partner i sefydlu cysylltiadau i hybu nodau prosiect a datblygu a defnyddio systemau monitro i gofnodi pob agwedd ar brosiect, gan gynnwys gweithredoedd, canlyniadau ac atgyfeiriadau
  • Ymagwedd hyblyg, ymrwymiad i weithio mewn cydweithrediad â rheolwyr a staff i osod a chyrraedd nodau’r sefydliad a datrys gwrthdrawiadau buddiannau yn broffesiynol.

Yn gyfnewid am y rhain gallwch ddisgwyl cyflog cystadleuol a gwyliau hael, cynllun pensiwn staff, oriau gwaith hyblyg, rhaglen fentora, gwasanaeth cynghori a chwnsela, talebau gofal plant, benthyciad tocyn tymor a llawer mwy.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i’n gwefan.

More searches like this