Cyfarwyddwr Cyllid/Director of Finance

Location
Cardiff
Salary
Grade F: £31,475 - £42,360 (£52,459 - £70,600 pro rata) depending on experience
Posted
26 Apr 2017
Closes
30 May 2017
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cyfarwyddwr Cyllid

Parhaol, rhan amser – 22.2 awr yr wythnos

Gradd F: £31,475 - £42,360 (£52,459 - £70,600 pro rata) gan ddibynnu ar brofiad

Caerdydd

Mae rôl y Cyfarwyddwr Cyllid yn un arweiniol bwysig yn cynrychioli cyfle arwyddocaol i weithio ar y lefelau uchaf oddi mewn i un o sefydliadau elusennol mwyaf Cymru.

Mae’r Cyfarwyddwr Cyllid yn aelod o Dîm yr Uwch-arweinwyr Cyngor Celfyddydau Cymru, prif gorff penderfyniadau gweithrediaeth y Cyngor.  Fel aelod allweddol o’r Tîm, bydd y Cyfarwyddwr Cyllid yn chwarae rôl bwysig yn sicrhau bod cyllid, adnoddau, asedau a phobl Cyngor y Celfyddydau yn cael eu rheoli’n effeithiol.  Rhan hanfodol o hwn yw sicrhau bod materion y Cyngor yn cael eu rheoli mewn modd atebol a phriodol. 

Disgwylir i’r Cyfarwyddwr Cyllid arwain y broses o ddarparu gwasanaeth Cyllid mewnol ac allanol o safon uchel. Mae’r Cyfarwyddwr yn rhoi arweiniad strategol ynglŷn â phob mater sy’n ymwneud â rheoli a thrin arian, adrodd statudol, ac archwilio mewnol ac allanol.   Gan weithio gyda’r Cyngor a’r Prif Weithredwr, mae’r Cyfarwyddwr Cyllid yn llunio strategaethau ariannol cynaliadwy a hyfyw sy’n galluogi’r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifydd cymwysedig (CIMA/ACA/CIPFA/ACCA).  Byddwch hefyd yn meddu ar brofiad proffesiynol sylweddol o weithredu ar lefel uwch-reolwr mewn rôl debyg o fewn amgylchedd ariannol a rheoleiddiol cymhleth.  Bydd profiad o weithio o fewn y sector gyhoeddus neu gydag elusen fawr yn fanteisiol, ond nid yn angenrheidiol.

Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn ddymunol am y swydd ond nid yn hanfodol.

Rydym yn cynnig amryw eang o fuddion gan gynnwys gweithio'n hyblyg, gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ar www.gatenbysanderson.com. Am sgwrs anffurfiol gyfrinachol am y swydd, cysylltwch â’n hymgynghorwyr, Helen Anderson (0207 426 3977) neu Juliet Taylor (020 7426 3373).

Dyddiad cau:             10:00 ar ddydd Mawrth 30ain Mai 2017

Dyddiad cyfweld:    Yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 3 Gorffennaf 2017

Gweithredwn bolisi cyfle cyfartal am recriwtio a chroesawn yn wresog geisiadau oddi wrth bob rhan o'r gymuned yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

Director of Finance

Permanent, part time – 22.2 hours per week

Grade F: £31,475 - £42,360 (£52,459 - £70,600 pro rata) depending on experience

Cardiff

The Director of Finance is a key leadership role representing a significant opportunity to work at the highest levels within one of Wales’ largest charitable organisations.

The Director of Finance is a member of the Arts Council of Wales’ Senior Leadership Team, Council’s principal executive decision-making body. As a key member of the Team, the Director of Finance will play an important role in helping to ensure the effective management of the Arts Council’s finances, resources, assets and people.  An essential part of this is providing assurance that Council’s affairs are being managed in an accountable and appropriate manner. 

The Director of Finance is expected to lead the delivery of a high quality internal and external Finance service. The Director provides strategic leadership on all matters relating to financial management and control, statutory reporting, and internal and external audit.   Working with Council and the Chief Executive, the Director of Finance devises sustainable and viable financial strategies that enable Council to deliver its priorities.

The successful candidate will be a qualified accountant (CIMA/ACA/CIPFA/ACCA).  They will also have substantial professional experience of operating at a senior management level in a similar role within a complex financial and regulatory environment.  Experience of working in the public sector or with a major charity would be an advantage, but not essential.

We work in both English and Welsh and fluency in Welsh (both written and spoken) is desirable but not essential for this post.

We offer a wide range of benefits including flexible working hours/pattern, generous holidays and a final salary pension.

To find out more, please visit www.gatenbysanderson.com. For an informal confidential discussion about the role, please contact our advising consultants, Helen Anderson (0207 426 3977) or Juliet Taylor (020 7426 3373).

Closing date:             10:00 on Tuesday 30th May 2017

Interview date:          Week commencing Monday 3 July 2017

We operate an Equal Opportunities Recruitment Policy and welcome applications from all sections of the community in Welsh or English.