SWYDDOG GWEITHREDOL / EXECUTIVE OFFICER

Location
Cardiff (Caerdydd)
Salary
Cyflog cychwynnol: £23,400 y flwyddyn + buddion/Starting salary £23,400 per annum + benefits
Posted
18 Apr 2017
Closes
05 May 2017
Ref
CGA16 / EWC16
Contract Type
Contract
Hours
Full Time

Cyngor y Gweithlu Addysg yw’r corff proffesiynol statudol, hunanreoleiddiol ar gyfer aelodau’r gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’n ceisio codi statws gweithwyr ym maes addysg a hyfforddiant drwy gynnal a hybu’r safonau uchaf o ymarfer ac ymddygiad proffesiynol er lles cofrestreion, dysgwyr a’r cyhoedd.  

Mae’r Cyngor yn awyddus i benodi’r canlynol:

Swyddog Gweithredol (SG) – Datblygiad Proffesiynol a Chyllid (Cytundeb Tymor Penodol Tan 31 Mawrth 2019)

Diben y swydd:

Yn gweithio fel rhan o dîm Datblygiad Proffesiynol y Cyngor a Chyllid, bydd y Swyddog Gweithredol yn darparu:

  • cymorth gweithredol a gweinyddol fel rhan o waith y Cyngor wrth weinyddu'r cyllid, olrhain a chofnodi trefniadau ar gyfer Sefydlu yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru
  • cymorth fel rhan o waith y Cyngor wrth ddatblygu, gweithredu a gweinyddu Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, ar ran Llywodraeth Cymru.

* Lefel y cyfrifoldeb ariannu yw tua £ 5 miliwn y flwyddyn.

Tasgau allweddol:

Bydd y Swyddog Gweithredol yn:

Gweithio fel rhan o dîm wrth sicrhau bod:

  •  yr ysgolion yn cadarnhau i’r Cyngor pwy sy’n ymgymryd â Sefydlu;
  •  yr wybodaeth a dderbynnir am Sefydlu yn cael ei fewnosod / uwchlwytho i’r gronfa ddata perthnasol a’u cynnal wedi hynny.
  • holl hawliadau ariannol yn cael eu derbyn a’u prosesu yn unol â’r terfynau amser cytunedig a
  •  bod cyllid yn cael ei ddyrannu i ysgolion a mentoriaid allanol (ymgynghorwyr a’r rheiny sydd ddim yn ymgynghorwyr)

 

  • Cynorthwyo â marchnata'r trefniadau ariannu a'r ddarpariaeth ar-lein o systemau cofnodi datblygiad proffesiynol rhagweithiol i sicrhau bod ymarferwyr a'u sefydliadau yn deall eu hawliau a'u rhwymedigaethau. Bydd hyn yn cynnwys gwneud cyflwyniadau i grwpiau rhanddeiliaid allweddol fel ysgolion ac athrawon addysg bellach (AB), gweithwyr cefnogi, penaethiaid dysgu, staff gweinyddol ac ymgynghorol yr Awdurdod Lleol ac AB, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a gweithwyr cymorth ieuenctid;
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt i ymarferwyr a'u sefydliadau, Awdurdodau Lleol (ALlau), ac eraill o ran y trefniadau cyllido, olrhain a chofnodi, ac unrhyw ddarpariaeth ar-lein o systemau cofnodi datblygiad proffesiynol, ac ateb ymholiadau yn unol â hynny;
  • Datblygu adroddiadau safonol ac ad-hoc i gynhyrchu data cryno a pharatoi ystadegau am y Rhaglen Gyllido ar gyfer uwch reolwyr a chynulleidfaoedd allweddol eraill;
  • Cydweithio â staff cyllido’r Cyngor I sicrhau bod:
    • hawliadau ariannol yn cael eu prosesu’n briodol;
    • gwariant a ragwelir a gwariant gwirioneddol yn cael eu monitro;
    • systemau a rheolaethau ariannol y cyngor yn cael eu gweithredu’n gadarn; a
    • bod prosesau cysoni misol a blynyddol yn eu lle ac yn cael eu dilyn.
  • Helpu sicrhau bod systemau TG effeithiol yn eu lle, yn cael eu cynnal a’u datblygu ymhellach yn ôl y gofyn;
  • Trefnu dosbarthiad papurau a chymryd nodiadau mewn cyfarfodydd perthnasol;
  • Cysylltu a chynorthwyo â Thîm Cynnal Corfforaethol y Cyngor a swyddogion eraill y Cyngor yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau y gall y Tîm Ariannu Datblygiad Proffesiynol gyflawni ei amcanion;
  • Cyfrannu at waith gweinyddol a gweithredol y Cyngor yn ôl y gofyn;
  • Goruchwylio staff dros dro petai’r angen yn codi;
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill fel y pennir gan y Rheolwr, Datblygiad Proffesiynol a Chyllido, sy'n gymesur â'r swydd.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol.

Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen i gais i ymgeisio am y swydd hon.


The Education Workforce Council is the statutory, self-regulating professional body for members of the education workforce in Wales.  It seeks to raise the status of workers in education and training by maintaining and promoting the highest standards of professional practice and conduct in the interests of registrants, learners and the general public.

The Council is seeking to appoint the following:

Executive Officer (EO) – Professional Development and Funding (Fixed Term to 31 March 2019) 

Purpose of Post:

Working as part of the Council’s Professional Development and Funding team, the Executive Officer will provide:

  • executive and administrative support as part of the Council’s work in administering the funding, tracking and recording arrangements for Induction in Wales on behalf of the Welsh Government
  • support as part of the Council’s work in developing, implementing and administering the Professional Learning Passport (PLP) for the education workforce in Wales, on behalf of the Welsh Government.

*The level of funding responsibility is in the region of £ 5 million per year.

Key Tasks:

The Executive Officer will:

Work as part of a team in ensuring that:

  • schools confirm to the Council who is undertaking Induction;
  • information received about Induction is input / uploaded to the relevant database and maintained thereafter;
  • all financial claims are received and processed according to agreed timescales; and
  • funding is distributed to schools and external mentors (consultant and non-consultant) within agreed financial protocols.

 

  • Assist in proactively marketing the funding arrangements and online provision of professional development recording systems to ensure that practitioners and their establishments fully understand their entitlement and obligations.  This will include making presentations to key stakeholder groups such as school and further education (FE) teachers, learning support workers, headteachers, Local Authority and FE administrative and advisory staff, work based learning providers andyouth support workers;
  • Act as a point of contact for practitioners and their establishments, Local Authorities (LAs), and others in respect of the funding, tracking and recording arrangements, and any online provision of professional development recording systems, answering queries accordingly;
  • Develop standard and ad-hoc reports to generate summary data and prepare statistics on the Funding Programme for senior management and other key audiences;
  • Work with Council Finance staff to ensure that:
    • financial claims are processed appropriately;
    • anticipated and actual expenditure is monitored;
    • the Council’s financial systems and controls are implemented robustly; and
    • monthly and annual reconciliation processes are in place and followed.​
  • Help to ensure that effective I.T. systems are in place, maintained and further developed as necessary;
  • Arrange the distribution of papers and taking of minutes at relevant meetings;
  • Liaise with and assist the Council’s Corporate Support Team and other Council officers as required, to ensure that the Professional Development and Funding Team  can achieve its objectives;
  • Contribute to other administrative and executive work of the Council as and when required;
  • Supervise temporary staff, should the need arise; and
  • Undertake other duties as specified by the Manager, Professional Development and Funding, commensurate with the post.

The ability to speak Welsh is essential.

You will need to complete an application form to apply for this post.