Cymorth Ariannol I Bobl Sy’n Ceisio Gwaith

Location
Castell-nedd, Port Talbot
Salary
Cystadleuol
Posted
03 Apr 2017
Closes
31 May 2017
Ref
225166118-01
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Cyfadran Addysg, Hamdden A Dysgu Hyd Oes, Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg

Cymorth Ariannol I Bobl Sy’n Ceisio Gwaith
Hyfforddiant Ar Gyfer Addysg Bellach

Bwriedir i’r gronfa hon gynnig budd i’r rheiny sydd wedi mynychu ysgol uwchradd yn ardal y cyn Sir Forgannwg, gan gynnwys Ysgol Howells, ond heb gynnwys ysgolion a oedd yn ardaloedd cyn Bwrdeistrefi Sirol Caerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful, am ddim llai na dwy flynedd.

Mae gwobrau ar gael ar ffurf:-

  1. Cymorth ariannol ar gyfer y rhain sy’n mynychu cyrsiau cymeradwy na ddarperir ar eu cyfer dan y cynllun cefnogi myfyrwyr arferol, gan gynnwys cyrsiau proffesiynol a thechnegol a
  2. Cymorth ariannol tuag at brynu cyfarpar, dillad, offer, offerynnau neu lyfrau i’r rheiny sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg i’w cynorthwyo i ddechrau mewn proffesiwn, masnach neu alwedigaeth.

Mae ffurflenni cais ar gael ar ein gwefan trwy y botwm “Gwneud cais” ar y dudalen hon.

Dylai ceisiadau gael eu marcio “Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg”.

Y Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2017.

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i weithredu ei Gynllun Iaith Gymraeg.