Aelod Annibynnol

Location
Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot
Salary
Competitive
Posted
13 Mar 2017
Closes
31 Mar 2017
Contract Type
Permanent
Hours
Part Time

PENODI AELODAU ANNIBYNNOL I FWRDD IECHYD PRIFYSGOL ABERTAWE BRO MORGANNWG

Mae gennym gyfleoedd cyffrous i helpu i lunio dyfodol gofal iechyd o fewn GIG Cymru trwy ymgymryd â rôl aelod annibynnol bwrdd iechyd. Felly, beth am ddangos bod y gallu gennych i arwain ac ysbrydoli er mwyn gwneud gwahaniaeth i'ch gwasanaethau iechyd yn GIG Cymru?

Rydym yn recriwtio 2 aelod annibynnol i'r Bwrdd Iechyd canlynol:-

Abertawe Bro Morgannwg – Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

Rydym yn recriwtio 2 rôl Aelod Annibynnol yn y sefydliad uchod. Mae manylion y swyddi i'w gweld isod. Os oes gennych awydd gwirioneddol i chwarae rhan lawn yn y gwaith o lywodraethu bwrdd iechyd, hoffem glywed oddi wrthych.

Rydym yn chwilio am ddau unigolyn gweithgar i ymgymryd â rôl Aelod Annibynnol (Cyllid) ac Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) o'r Bwrdd i gyfrannu at y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd lleol i'r cyhoedd yn y cymunedau a restrir uchod, yn unol â chyfeiriad strategol GIG Cymru. Ar gyfer rôl yr Aelod Cyllid, bydd gan yr ymgeiswyr wybodaeth o systemau cyllid a rheolaeth ariannol mewn sefydliadau mawr, dealltwriaeth gadarn o rôl Archwilio a Llywodraethu, y gallu i ddadansoddi ac adolygu Achosion Busnes yn feirniadol, profiad o wella perfformiad i sicrhau gwerth am arian, a'r gallu i gymhwyso eu gwybodaeth ariannol arbenigol ar lefel bwrdd strategol. Ar gyfer rôl yr Aelod Cyfreithiol, bydd gan yr ymgeiswyr y gallu i gymhwyso eu gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol ar lefel bwrdd strategol, i gynnig cyngor i'r bwrdd ynghylch cyfraith corfforaethol, cyflogaeth a chontract, ynghyd â materion sy’n ymwneud â llywodraethu corfforaethol a rheoleiddio proffesiynol, i oruchwylio ansawdd dogfennau ac i gymhwyso eu harbenigedd gyfreithiol i gasglu a dehongli gwybodaeth gymhleth ac anghyfarwydd. 

Aelodau Annibynnol

Mae Aelodau Annibynnol yn cyfrannu at ddatblygiad strategol y bwrdd a'r broses o wneud penderfyniadau, sicrhau trefniadau rheoli a thîm effeithiol ar lefel uchaf y sefydliad, sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn gywir a bod rheolaethau ariannol a systemau rheoli risg a sicrwydd yn gadarn a bod modd eu hamddiffyn. Mae Aelodau Annibynnol yn cynnal y safonau moesegol uchaf o uniondeb a chywirdeb, ac yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Dylent hefyd ddangos drwy eu hymddygiad eu bod yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau tuag at ddinasyddion, y sefydliad a'i randdeiliaid.

Felly, beth am ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad i gyfrannu at waith y Bwrdd? Mae GIG Cymru yn chwilio ar hyn o bryd am Aelodau Bwrdd Annibynnol i gyflawni'r rolau canlynol:- 

Aelodau Annibynnol

 

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (2 swydd) – Aelod Annibynnol (Cyllid) ac Aelod Annibynnol (Cyfreithiol)

 

 

Gwneir y penodiadau ar sail teilyngdod ond rhoddir ystyriaeth i'r angen i gael amrywiaeth gytbwys o sgiliau.

Penodir Aelodau Annibynnol am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd. Mae swyddi Aelodau Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi'u seilio ar ymrwymiad tybiannol o bedwar (4) diwrnod y mis o leiaf. Fodd bynnag, bydd hynny'n amodol ar ofynion y sefydliad.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, megis menywod, pobl anabl, ac unigolion o leiafrifoedd ethnig, a'r sgiliau sydd gennych i gyfrannu at y rôl hon.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-cb83f6609fc0/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/

neu os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â Desg Gymorth Cydwasanaethau Llywodraeth Cymru drwy e-bostio: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk neu ffoniwch: 029 2082 5454.

Nodwch mai 31 Mawrth 2017 yw’r dyddiad cau

I gael fersiynau print bras, Braille, neu sain o'r hysbyseb hon, ffoniwch 029 2082 5454.