Swyddog Cyfryngau Digidol

Location
CF15 7NE, Cardiff
Salary
£23,739 - £24,988
Posted
13 Mar 2017
Closes
10 Apr 2017
Ref
SCD2017
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Swyddog Cyfryngau Digidol

£23,739 - £24,988

35 awr

Tongwynlais, Caerdydd

Oes gennych chi dân yn eich bol am bethau digidol? Ydych chi’n caru creu cynnwys? Ydych chi’n cael gwefr o rannu, dilyn ac aildrydaru? Os felly, mae’n bosib fod gennym y swydd ddelfrydol i chi! Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Digidol a fydd yn cynorthwyo i ddarparu ein Strategaeth Farchnata a Chyfathrebu er mwyn sicrhau y bydd ein tenantiaid, ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid yn rhyngweithio â ni.

Bydd y Swyddog Cyfryngau Digidol yn rheoli ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Twitter a LinkedIn, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yn creu, golygu, trefnu a chyhoeddi cynnwys amlgyfrwng ar gyfer ein gwefan a’n mewnrwyd yn ogystal ag ar gyfer ein platfformau cyfryngau cymdeithasol. Bydd yn darparu ffyrdd newydd ac arloesol i gynyddu ymgysylltiad y cwsmer, ac yn cydlynu presenoldeb digidol y sefydliad mewn digwyddiadau a gweithgareddau yn y gymuned, a hynny mewn ffordd greadigol.

Mae profiad blaenorol o weithio o fewn adran farchnata neu gyfathrebu yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o ysgrifennu cynnwys, a chydlynu platfformau cyfryngau cymdeithasol. Gan fod hon yn rôl ddwyieithog bydd angen i chi gael sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ynghyd â sgiliau prawfddarllen rhagorol.

Mae sgiliau eithriadol mewn trefnu a chyfathrebu hefyd yn hanfodol i’r rôl hon; mae’n rhaid i chi allu gweithio ar eich liwt eich hun, a gallu blaenoriaethu eich baich gwaith i ateb terfyn-amser caeth. Mae gwella’n gyson wrth galon yr hyn a wnawn, felly mae gosod safonau gwaith uchel, a gallu bod yn hyblyg ac arloesol, hefyd yn bwysig i ni.

Dyma gyfle cyffrous i gymryd rôl allweddol yn strategaeth twf uchelgeisiol Newydd. Mae tîm Newydd yn adlewyrchu ansawdd a diwylliant ein sefydliad ac felly mae angerdd am ragoriaeth, a dymuniad i wneud cyfraniad gloyw, yn hanfodol. Yn gyfnewid am yr ymroddiad a’r awch a ddewch i’r rôl, cewch gyflog cystadleuol a phecyn buddion ffantastig gan gynnwys pensiwn, cynllun arian iechyd, parcio am ddim, oriau hyblyg, a hawl i wyliau hael.

Os oes gennych chi ymroddiad i wneud gwahaniaeth, ac os oes gennych chi sgiliau cyfathrebu gwych, yna beth am wneud cais?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: hanner nos, nos Lun 17 Ebrill 2017

Dyddiad y cyfweliad: Dydd Mercher 26 Ebrill 2017

Neu am sgwrs anffurfiol am y rôl newydd a gwych hon cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Mared Edwards, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, drwy e-bost: mared.edwards@newydd.co.uk

Mae Cymdeithas Tai Newydd yn ddarparwr arloesol 3,000 o gartrefi fforddiadwy o safon uchel i denantiaid ledled Canolbarth a De Cymru. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob adran o’r gymuned. Rydym mewn cyfnod cyffrous o newid a thwf, a gallai’r swydd hon fod yn gyfle perffaith i chi ddod i ymuno â ni!

Please note: This is a job advert for a bilingual Digital Media Officer where the requirement to speak and write English and Welsh is essential.