Hyfforddwr Nofio / Cynorthwy-ydd Pwll ar Ddydd Sul

Recruiter
Sport Wales*
Location
Caernarfon, Gwynedd
Salary
£1,630.15 per annum
Posted
17 Feb 2017
Closes
17 Mar 2017
Sectors
Sport & Leisure
Contract Type
Permanent
Hours
Part Time

Hyfforddwr Nofio / Cynorthwy-ydd Pwll ar Ddydd Sul

6.50 awr yr wythnos (oriau – Cynorthwy-ydd Pwll 3.50 a 3.0 awr fel Hyfforddwr Nofio)

£1630.15 y flwyddyn - Cynorthwy-ydd Pwll

£12.48 yr awr – Hyfforddwr Nofio

Lleoliad: Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai, Caernarfon, Gogledd Cymru.


Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ein nod ni yw cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes a chreu cenedl o bencampwyr. Mae gennym ni weledigaeth glir a chadarn ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru sy’n uchelgeisiol ei chwmpas ac yn feiddgar ei chanlyniadau, gan ganiatáu i’r sector ddatblygu a darparu profiadau cadarnhaol a gwell i bawb.

Plas Menai yw’r Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ar gyfer Cymru, yn cynnig gweithgareddau awyr agored a chyrsiau hwylio, gyrru cychod pŵer, gwyntsyrffio, caiacio a llawer mwy. Hefyd rydyn ni’n cynnal rhaglen brysur o weithgareddau awyr agored i ysgolion, grwpiau, oedolion, plant a’r gymuned leol. Mae gennym ni raglen brysur o gymwysterau Cyrff Rheoli Cenedlaethol a phr ffesiynol yn yr awyr agored, a hefyd cyrsiau a chynadleddau datblygiad proffesiynol a meithrin tîm sy’n denu mwy na 25,000 o ddyddiau cyfranogwyr bob blwyddyn.  

Mae gennym ni gyfle cyffrous i rywun ymuno â thîm Staff y Pwll Nofio.         

Yn y rôl yma byddwch yn goruchwylio’r pwll nofio ac yn rhoi hyfforddiant nofio i blant ac oedolion yn unol â Gweithdrefnau Gweithredu Arferol y Ganolfan. Byddwch yn sicrhau bod ardal y Pwll Nofio’n cael ei chynnal i’r safonau uchaf ac yn darparu amgylchedd diogel a hwyliog i’n cwsmeriaid.             

Mae’n hanfodol bod gennych chi Gymhwyster Gwarchod Bywyd Pwll Cenedlaethol (NPLQ) cyfredol a hyfforddiant gloywi IQL diweddar wedi’i gofnodi, yn ogystal â Thystysgrif L2 UKCC mewn hyfforddi neu Addysgu Gweithgareddau Dŵr. Oherwydd natur y swydd yma, mae gallu siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn ddymunol.              

Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel, yn ogystal ag angerdd a dyhead i lwyddo, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Mae croeso i geisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a dderbynnir yn Saesneg.      

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan ni www.sportwales.org.uk/about-us/job-vacancies/our-vacancies.aspx

 

More searches like this