Chair

Location
Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taff, Upper Rhymney Valley, South Powys, North Cardiff and the Western Vale
Salary
Competitive
Posted
14 Feb 2017
Closes
09 Mar 2017
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

APPOINTMENTS OF CHAIRS TO NHS WALES HEALTH BOARDS AND TRUSTS

We have some exciting opportunities to help shape the future of health care in NHS Wales through undertaking the role of a health board or trust chair, so why not show that your have the ability to lead and inspire in order to make a difference to health services in NHS Wales?

Cwm Taf University Health Board – Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taff, Upper Rhymney Valley, South Powys, North Cardiff and the Western Vale.

We are recruiting for 3 Chair roles in the above organisations.  Details of the roles are below.  If you have a genuine desire to make a real difference in these areas in terms of leadership and inspiration, we would like to hear from you.

In order to meet the challenge of planning and delivering a wide range of primary, community and secondary health services to the populations of communities listed above as well as working with partners to promote health and well-being in these areas, we are looking for three dynamic individuals to undertake the role of Chair. You will need to have an understanding of the health issues and priorities in the area for which you are applying, the ability to hold executives to account, the ability to provide knowledgeable, impartial and balanced perspectives on a range of sensitive and complex issues. You will have the ability to lead and inspire staff. You will also have drive and determination, excellent inter-personal and communication skills, sound judgment, sensitivity, political awareness and the capacity to be independent and resilient.

Chairs

Chairs hold the Chief Executive of the Health Board or Trust to account and are themselves accountable to the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport for the performance and effective governance of their Health Board or Trust. They will up hold the values of NHS Wales, promoting the confidence of the public.

They provide strong, effective and visible leadership, ensure the effective delivery the strategic and operational aims of the Health Board or Trust, maintain the highest quality of health standards and practices, improve the quality and safety of healthcare, work effectively with partners to ensure safe and effective delivery of service, are responsible for public money and undertake an ambassador role.

Why not utilise your skills and experience to make a contribution? NHS Wales is currently looking for Chairs to undertake the following roles:-

Chairs

  • Aneurin Bevan University Board (1 post) – Chair
  • Cwm Taf University Health Board (1 post) – Chair
  • Public Health Wales NHS Trust (1 post) – Chair

Appointments will be made on merit although consideration will be given to the need to establish a balanced skills mix.

Chairs will be appointed for up to a four (4) year period. The posts of Chair of the Aneurin Bevan and Cwm Taf University Health Boards are based on a notional time commitment of a minimum of fifteen (15) days per month while the post of Chair of Public Health Wales is fourteen and a half (14.5) days per month.  Each will be subject to organisational demands.

We are particularly interested in hearing from under-represented groups such as women, disabled people and ethnic minority individuals and the skills you have to make a contribution in these roles.

For more information or to apply go to our website by clicking apply.

Please note that the closing date is 9th March 2017

 

PENODI CADEIRYDDION I FYRDDAU IECHYD AC YMDDIRIEDOLAETHAU GIG CYMRU

Mae gennym gyfleoedd cyffrous i helpu i lunio dyfodol gofal iechyd o fewn GIG Cymru trwy ymgymryd â rôl cadeirydd bwrdd neu ymddiriedolaeth. Felly, beth am ddangos bod y gallu gennych i arwain ac ysbrydoli er mwyn gwneud gwahaniaeth i'ch gwasanaethau iechyd yn GIG Cymru?

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf – Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Cwm Rhymni Uchaf, De Powys, Gogledd Caerdydd a Gorllewin y Fro.

Rydym yn recriwtio 3 Chadeirydd ar gyfer y sefydliadau uchod.  Mae manylion y swyddi i'w gweld isod.  Os oes gennych awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth yn y meysydd hyn drwy arwain ac ysbrydoli, hoffem glywed oddi wrthych. 

Rydym yn chwilio am dri unigolyn gweithgar i ymgymryd â rôl Cadeirydd a mynd i'r afael â'r her o gynllunio a chyflenwi amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd sylfaenol, cymunedol ac eilaidd i'r cyhoedd yn y cymunedau a restrir uchod, ynghyd â gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo iechyd a lles yn yr ardaloedd hyn. Bydd angen ichi gael dealltwriaeth gadarn o faterion a blaenoriaethau iechyd yr ardal y byddwch yn ymgeisio amdani. Bydd gofyn ichi hefyd feddu ar y gallu i ddwyn gweithredwyr i gyfrif ac i roi barn ddeallus, ddi-duedd a chytbwys ar amryw o faterion cymhleth a sensitif, ynghyd â’r gallu i arwain ac ysbrydoli staff. Bydd gennych hefyd gymhelliant a phenderfyniad, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych, barn gadarn, sensitifrwydd, ymwybyddiaeth wleidyddol, y gallu i fod yn annibynnol ac yn gymeriad cryf.

Cadeiryddion 

Mae Cadeiryddion yn gyfrifol am ddwyn Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd neu'r Ymddiriedolaeth i gyfrif ac maent yn atebol eu hunain i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon am eu perfformiad ac am lywodraethu eu Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth mewn ffordd effeithiol. Byddant yn arddel gwerthoedd GIG Cymru gan ennyn hyder y cyhoedd.

Byddant yn cynnig arweinyddiaeth gadarn, effeithiol a gweladwy ac yn sicrhau bod nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd neu'r Ymddiriedolaeth yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Byddant hefyd yn cynnal safonau ac arferion iechyd o'r ansawdd orau, yn gwella ansawdd a diogelwch mewn gofal iechyd ac yn cydweithio'n effeithiol â phartneriaid i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'r ddiogel ac yn effeithiol. Y Cadeirydd sydd hefyd yn gyfrifol am arian cyhoeddus a bydd hefyd yn ymgymryd â rôl llysgenhadol.

Felly, beth am ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad i gyfrannu at waith y Gwasanaeth Iechyd?  Mae GIG Cymru yn chwilio ar hyn o bryd am Gadeiryddion i gyflawni'r rolau canlynol:-

Cadeiryddion 

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (1 swydd) – Cadeirydd
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (1 swydd) – Cadeirydd
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (1 swydd) – Cadeirydd

Gwneir y penodiadau ar sail teilyngdod ond rhoddir ystyriaeth i'r angen i gael amrywiaeth gytbwys o sgiliau.

Penodir Cadeiryddion am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd. Mae swyddi Cadeiryddion Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf wedi'u seilio ar ymrwymiad tybiannol o bymtheg (15) niwrnod y mis o leiaf, tra bod swydd Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn am bedwar ar ddeg a hanner o ddiwrnodau (14.5) y mis.  Fodd bynnag, bydd hynny'n amodol ar ofynion y sefydliadau unigol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, megis menywod, pobl anabl ac unigolion o leiafrifoedd ethnig, a'r sgiliau sydd gennych i gyfrannu at y rôl hon.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/so/pm/1/pl/8/opp/2970-Chair-Cwm-Taf-University-Health-Board/en-GB

 neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Cydwasanaethau Llywodraeth Cymru drwy e-bostio:  DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk neu ffoniwch: 029 2082 5454.

Nodwch mai 9 Mawrth 2017 yw'r dyddiad cau

I gael fersiynau print bras, Braille, neu sain o'r hysbyseb hon, ffoniwch 029 2082 5454.