Prif Swyddog Gweithredol / Chief Executive Officer (CEO)

Location
London
Salary
Up to £142,000 per annum
Posted
18 Jan 2017
Closes
06 Feb 2017
Sectors
Management
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Prif Swyddog Gweithredol, Asiantaeth Safonau Bwyd

Cyflog: hyd at £142,000 y flwyddyn

Lleoliad: Llundain

Ydych chi'n berson sy'n cyfuno sgiliau arwain strategol â'r gallu i wneud i bethau ddigwydd yn y mannau mwyaf dyrys? A oes gennych chi hanes da o sicrhau canlyniadau mewn amgylchedd rhanddeiliaid cymhleth? Ydych chi eisoes yn meddu ar brofiad ymarferol o drawsnewid sefydliad o ran trefn a diwylliant, a hynny yn llwyddiannus?

Os felly, efallai mai chi yw ein Prif Swyddog Gweithredol nesaf. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn adran anweinidogol o'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y diwydiant bwyd – o’r fferm i’r fforc – yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Rydym ni nawr yn gobeithio penodi i rôl heriol ond gwerth chweil y Prif Swyddog Gweithredol i gynnig gweledgiaeth strategol ac i arwain y sefydliad ar adeg lle mae newidiadau sylweddol ar droed, o fewn cyfeiriad polisi a bennir gan Fwrdd yr Asiantaeth. Rydym ni yng nghanol cyfnod arwyddocaol o ran rheoleiddio bwyd a safonau bwyd – 25% y ffordd drwy raglen drawsnewid fentrus, a fydd yn para pedair blynedd, gyda'r nod o foderneiddio a diogelu'r gyfundrefn reoleiddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon at y dyfodol.

Yn y rôl hollbwysig hon, byddwch yn arwain ar ddatblygu polisïau a chynlluniau i sicrhau bwyd diogel i'r genedl, sicrhau bod yr Asiantaeth yn cynnal ei pherfformiad uchel yn y gyfundrefn reoleiddio bresennol tra hefyd yn cyflawni'r rhaglen drawsnewid.  Byddwch hefyd yn gyfrifol am gynghori ar ganlyniadau penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Uneb Ewropeaidd, yn ogystal â chynllunio a gweithredu yn unol â hynny. Bydd ymadawiad y Deyrnas Unedig yn creu cyfleoedd yn ogystal â disgwyliadau ychwanegol – ar hyn o bryd caiff dros 95% o waith yr adran ei lywio gan ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n deillio o Ewrop. Er nad ydym ni eto yn gwybod beth fydd hyn yn ei olygu, rydym ni'n gwybod bod cynnal ffydd y cyhoedd mewn bwyd a chynnal safonau bwyd uchel yn elfennau nad yw defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig a thramor yn barod i gyfaddawdu arnynt. 

I gael rhagor o fanylion ar sut i wneud cais, dilynwch y ddolen

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am ddydd Llun 6 Chwefror 2017.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym ni'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn awyddus i'n gweithlu adlewyrchu'r cymunedau hynny rydym ni'n eu gwasanaethu. Rydym ni hefyd yn ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl.

Mae Comisiwn y Gwasanaeth Sifil yn rhoi sicrwydd bod unrhyw benodiadau i'r Gwasanaeth Sifil ar sail teilyngdod, yn dilyn cystadleuaeth deg ac agored. 

 

Chief Executive Officer (CEO), Food Standards Agency

Ref. 1522706

Salary:  up to £142,000 per annum

Location:  London

Are you the kind of person who combines strategic leadership with the ability to make things happen at the sharp end? Do you have a track record of delivering results in a complex stakeholder environment?  Do you already have hands-on experience of successfully driving through organisational and cultural transformation?

If so, you may be our next Chief Executive Officer.  The Food Standards Agency is a non-ministerial Government department responsible for regulating all aspects of the food industry – from farm to fork – in England, Wales and Northern Ireland. 

We are now recruiting for the challenging but rewarding role of Chief Executive Officer (CEO) to provide strategic vision and leadership to the organisation at a time of significant change, within the policy direction set by the Agency’s Board.  We are at a pivotal moment in food regulation and food standards - 25% of the way through a bold four year transformation programme, aimed at modernising and future proofing the regulatory regime in England, Wales and Northern Ireland.  

In this critical role you will lead on developing policies and plans to deliver safe food for the nation, ensuring that the Agency maintains its high performance in the current regulatory regime whilst also delivering the transformation programme.  You will also be responsible for advising on, planning for and implementing the consequences of the UK’s decision to leave the European Union.   The UK’s exit will create both opportunities and additional expectations - over 95% of the department’s work is currently driven by legislation and regulation originating in Europe.  Whilst we don’t yet know all that this entails, we do know that sustaining public trust in food and maintaining high food standards are non-negotiable for consumers in the UK and abroad. 

For further details and how to apply please follow the link by clicking apply.

The closing date for applications is 10am on Monday 6 February 2017.

The Food Standards Agency is an equal opportunity employer.  We value diversity and want our workforce to reflect the communities that we serve.  We are also committed to the employment and career development of disabled people.

The Civil Service Commission provides assurance that selection for appointment to the Civil Service is on merit on the basis of fair and open competition. 

More searches like this