Director for Wales / Cyfarwyddwr Cymru
- Recruiter
- Learning and Work Institute
- Location
- Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
- Salary
- £55,000 - £65,000
- Posted
- 28 Nov 2016
- Closes
- 03 Jan 2017
- Sectors
- Charity & Voluntary, Management
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Director for Wales
Cardiff based
Full time- permanent
Salary: circa. £55,000 - £65,000
Learning and Work Institute is an independent research and development organisation dedicated to promoting lifelong learning, full employment and inclusion.
We’re focused on the big questions. How do we help people find work and build careers in a changing job market? How do we help people be active and engaged citizens? And how do we do all this in a time of constrained public funding?
This is an exciting time to join Learning and Work Institute. We already have a powerful voice in Wales, established over many years. To achieve our vision for a society in which everyone has opportunities to learn and work and be supported to achieve their ambitions in life, community and work, Learning and Work Institute must ensure that we have the best people, with excellent skills and experience.
We are looking to recruit a highly motivated and inspiring Director for Wales to build upon our existing success and increase our impact and income for the future. This role will focus on increasing our profile in Wales, managing our strategic partnerships, gathering and disseminating our evidence and messages and making even more of an impact on learning and work in Wales.
This is a key leadership role in Learning and Work Institute, As a member of the Senior Management Team, the role will proactively support the governance of the Institute and take a leading role in developing a positive, open and collaborative organisational culture to improve performance, build capacity and increase impact using the Investors in People Framework.
You will need experience of working at a senior level in Wales, including with Welsh Government, leading and managing complex projects and winning new contracts.
We warmly invite welsh speakers to apply for this position. We also welcome applications in either English or Welsh.
For more information and to apply, please visit our website http://www.learningandwork.wales/what-we-do/vacancies by clicking apply.
The closing date for applications is Midday on Tuesday 3 January 2017.
We anticipate that interviews will take place in Cardiff during week commencing Monday 16 January 2017.
For an informal discussion about the role please contact Cerys Furlong cerys.furlong@learningandwork.org.uk or call 02920 370900.
Learning and Work is a level 2 Disability Confident Employer. Should you require any adjustments to participate in this recruitment process, please contact Rachel Marvin, HR Administrator on 0116 204 2819 or email rachel.marvin@learningandwork.org.uk
Cyfarwyddwr Cymru
Seiliedig yng Nghaerdydd
Llawn-amser - parhaol
Cyflog - tua £55,000 - £65,000
Mae'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn sefydliad ymchwil a datblygu annibynnol sy'n ymroddedig i hyrwyddo dysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant.
Rydym yn canolbwyntio ar y cwestiynau mawr. Sut mae helpu pobl i ddod o hyd i waith ac adeiladu gyrfaoedd mewn marchnad swyddi gyfnewidiol? Sut ydym yn helpu pobl i ddod yn ddinasyddion gweithgar ac wedi ymgysylltu? A sut mae gwneud hyn i gyd ar adeg pan fo cyllid cyhoeddus yn gyfyngedig?
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â'r Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae gennym eisoes lais grymus yng Nghymru, a sefydlwyd dros lawer o flynyddoedd. I gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer cymdeithas lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ddysgu a gweithio a chael eu cefnogi i gyflawni eu huchelgais mewn bywyd, y gymuned a gwaith, mae'n rhaid i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith sicrhau fod gennym y bobl orau, gyda sgiliau a phrofiad ardderchog.
Dymunwn recriwtio Cyfarwyddwr gyda chymhelliant uchel ac ysbrydoledig ar gyfer Cymru i adeiladu ar ein llwyddiant presennol a chynyddu ein heffaith a'n hincwm ar gyfer y dyfodol. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar gynyddu ein proffil yng Nghymru, rheoli ein partneriaethau strategol, casglu a lledaenu ein tystiolaeth a'n negeseuon a chael mwy o effaith fyth ar ddysgu a gwaith yng Nghymru.
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth allweddol yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Fel aelod o'r Uwch Dîm Rheoli, bydd y swydd yn rhoi cefnogaeth ragweithiol i lywodraethiant y Sefydliad ac yn cymryd rhan flaenllaw wrth ddatblygu diwylliant sefydliadol cadarnhaol, agored a chydweithiol i wella perfformiad, meithrin gallu a chynyddu effaith yn defnyddio Fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl.
Byddwch angen profiad o weithio ar lefel uwch yng Nghymru, yn cynnwys gyda Llywodraeth Cymru, gan arwain a rheoli prosiectau cymhleth ac ennill contractau newydd.
Estynnwn wahoddiad cynnes i siaradwyr Cymraeg wneud cais am y swydd. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg.
I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'n gwefan os gwelwch yn dda http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/what-we-do/swyddi-gwag
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Canol-dydd ddydd Mawrth 3 Ionawr 2017.
Rhagwelwn y cynhelir cyfweliadau yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun 16 Ionawr 2017.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â Cerys Furlong cerys.furlong@learningandwork.org.uk neu ffonio 02920 370900.
Mae 'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn Gyflogwr lefel 2 Hyderus am Anabledd. Pe byddech angen unrhyw addasiadau i gymryd rhan yn y broses recriwtio hon, cysylltwch os gwelwch yn dda â Rachel Marvin, Gweinyddydd Adnoddau Dynol ar rachel.marvin@learningandwork.org.uk neu ffonio 0116 204 2819.