Rheolwr Perfformiad

Location
Wrexham, Wales
Salary
£24840 - £27000 per annum
Posted
03 Nov 2016
Closes
01 Dec 2016
Ref
1698
Contact
Alison Kearney
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

 Cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a chynnal unrhyw reolaethau a systemau angenrheidiol i gasglu data'n gysylltiedig â'r contract.
 Cynorthwyo i wella cywirdeb ac effeithlonrwydd yr holl brosesau sy'n ymwneud â data at ddibenion perfformiad ac archwilio.
 Cyfrannu at sicrhau bod gweithdrefnau a systemau yn bodloni gofynion y contract.
 Cyfrannu at gywirdeb a phrydlondeb yr amserlen rhoi gwybod am wybodaeth Rheoli Perfformiad i randdeiliaid.
 Cyfrannu at lunio a gweithredu data perfformiad effeithiol yn y sefydliad ac yn genedlaethol.
 Cyfrannu at ddatblygu, cydlynu, monitro a gwerthuso cyllid mewnol a data archwiliadau mewnol sy'n cael eu cynnal ar y safle.
 Gweithio gyda rheolwyr y safle a'r Pennaeth Dysgu a Sgiliau i sicrhau bod cynlluniau gweithredu sy'n ymwneud â gwella perfformiad yn erbyn targedau cyllido a data yn cael eu cwblhau.
 Darparu a chynorthwyo gyda hyfforddiant ar gyfer y timau ar y safle.
 Cynnal perthynas waith ardderchog gyda'r holl randdeiliaid. Mynd ati'n rhagweithiol i reoli ac i ddatrys yn brydlon, problemau allai ymddangos.
 Darparu hyfforddiant ac arweiniad i reolwyr ar ddata perfformiad a chyllid, rhoi gwybod am brosesau a gweithdrefnau.
 Gwirio ansawdd oriau sesiynol a chofnodi a thynnu sylw'r rheolwr priodol at anghysondebau.
 Cynnal archwiliadau a drefnwyd o'r sefydliad yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Darparu adroddiadau archwilio cywir, ar y canfyddiadau a'r camau i'w cywiro. Monitro effeithiolrwydd y camau hynny i sicrhau cyflawni'r safonau gofynnol.
 Cynorthwyo'r Pennaeth Dysgu a Sgiliau i baratoi ar gyfer archwiliadau allanol.

More searches like this