Rheolwr Perfformiad
- Recruiter
- Randstad Education Group
- Location
- Wrexham, Wales
- Salary
- £24840 - £27000 per annum
- Posted
- 03 Nov 2016
- Closes
- 01 Dec 2016
- Ref
- 1698
- Contact
- Alison Kearney
- Sectors
- Education & Teaching
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a chynnal unrhyw reolaethau a systemau angenrheidiol i gasglu data'n gysylltiedig â'r contract.
Cynorthwyo i wella cywirdeb ac effeithlonrwydd yr holl brosesau sy'n ymwneud â data at ddibenion perfformiad ac archwilio.
Cyfrannu at sicrhau bod gweithdrefnau a systemau yn bodloni gofynion y contract.
Cyfrannu at gywirdeb a phrydlondeb yr amserlen rhoi gwybod am wybodaeth Rheoli Perfformiad i randdeiliaid.
Cyfrannu at lunio a gweithredu data perfformiad effeithiol yn y sefydliad ac yn genedlaethol.
Cyfrannu at ddatblygu, cydlynu, monitro a gwerthuso cyllid mewnol a data archwiliadau mewnol sy'n cael eu cynnal ar y safle.
Gweithio gyda rheolwyr y safle a'r Pennaeth Dysgu a Sgiliau i sicrhau bod cynlluniau gweithredu sy'n ymwneud â gwella perfformiad yn erbyn targedau cyllido a data yn cael eu cwblhau.
Darparu a chynorthwyo gyda hyfforddiant ar gyfer y timau ar y safle.
Cynnal perthynas waith ardderchog gyda'r holl randdeiliaid. Mynd ati'n rhagweithiol i reoli ac i ddatrys yn brydlon, problemau allai ymddangos.
Darparu hyfforddiant ac arweiniad i reolwyr ar ddata perfformiad a chyllid, rhoi gwybod am brosesau a gweithdrefnau.
Gwirio ansawdd oriau sesiynol a chofnodi a thynnu sylw'r rheolwr priodol at anghysondebau.
Cynnal archwiliadau a drefnwyd o'r sefydliad yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Darparu adroddiadau archwilio cywir, ar y canfyddiadau a'r camau i'w cywiro. Monitro effeithiolrwydd y camau hynny i sicrhau cyflawni'r safonau gofynnol.
Cynorthwyo'r Pennaeth Dysgu a Sgiliau i baratoi ar gyfer archwiliadau allanol.