Uwch Weithiwr/Wraig Cefnogol (Cynllun Rhannu Swydd)
- Recruiter
- Antur Waunfawr*
- Location
- Caernarfon, Gwynedd
- Salary
- £17,221 y flwyddyn (pro rata)
- Posted
- 24 Oct 2016
- Closes
- 09 Nov 2016
- Ref
- 225067600-01
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Part Time
Mae Antur Waunfawr yn cynnig cyfleoedd hamdden i hyrwyddo Iechyd a Lles yn ogystal â chyfleoedd gwaith i oedolion ag anableddau dysgu ac eraill dan anfantais yn y gymuned. Er mwyn sicrhau gwasanaeth o’r ansawdd uchaf rydym yn chwilio am unigol blaengar i ymuno â’r Cwmni.
Uwch Weithiwr/Wraig Cefnogol (Cynllun Rhannu Swydd)
- 1 x swydd i weithio 22.5 awr yr wythnos (Llun – Mercher)
- Cytundeb: Parhaol
- Cyflog: £17,221 y flwyddyn (pro rata)
- Lleoliad: Caernarfon
Mae’r swydd yma yn rhan o wasanaeth Aml-Ofynion Antur Waunfawr ar gyfer unigolion sydd ag anghenion dwys a lluosog. Byddwch yn aelod allweddol o dim ehangach ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i ofynion amrywiol yr unigolion a’r teuluoedd/gofalwyr.
Mae’n hanfodol i’r holl ymgeiswyr fod yn awyddus i weithio efo pobl ag anabledd dysgu mewn rôl sydd yn galluogi’r unigolyn i fyw bywyd i’w llawn botensial.
Bydd deilydd y swyddi yn cefnogi’r unigolion sy’n derbyn y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau byw, gwaith, hamdden a chymdeithasol Bydd yn ofynnol i’r unigolion llwyddiannus gael trwydded yrru lawn ac yn berchen car.
Mae’r penodiad uchod yn amodol i archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am becyn swydd e-bost at Adran Adnoddau Dynol drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen hon.
Dyddiad Cau ar gyfer y swydd: Dydd Mercher 9 Tachwedd 2016
(This advertisement is for Senior Support Worker post for which fluency in Welsh and English is essential.)