Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Hamdden
- Recruiter
- Pembrokeshire County Council*
- Location
- Hwlffordd, Sir Benfro
- Salary
- Hyd at £115,000, gyda char
- Posted
- 21 Oct 2016
- Closes
- 08 Nov 2016
- Ref
- 225066718-01
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Cyngor Sir Penfro
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Hamdden
Hyd at £115,000, gyda char
Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas yw sut i ofalu am bobl hŷn, oedolion a phlant agored i niwed. Yn Sir Benfro, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl i fod mor annibynnol â phosibl – trwy wasanaethau ymyrraeth ac atal cynnar effeithiol, a gofal cymdeithasol wedi’i bersonoli, diogel ac o ansawdd uchel.
Byddwch yn adrodd i’r Prif Weithredwr, ac yn atebol am reolaeth strategol a pherfformiad ein gwasanaethau gofal oedolion, plant a hamdden. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn arwain gwella gwasanaeth, yn ogystal ag ailwampio polisi a darpariaeth mewn ymateb i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol newidiol.
Rydym yn chwilio am reolwr proffesiynol medrus, craff a dyfeisgar gyda dealltwriaeth dda o ofal cymdeithasol, a phrofiad o reoli gwasanaeth llwyddiannus. Byddwch yn gyfathrebwr hyderus ac yn gallu gweithio’n adeiladol gydag aelodau etholedig, ein partneriaid darparu gwasanaeth a rheolyddion, yn ogystal â gwneud cyfraniad llawn i reolaeth gorfforaethol ein sefydliad. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Dyma gyfle gwych i ymuno â’r uwch-dîm mewn Cyngor blaengar sy’n gwasanaethu’r gymuned mewn sir atyniadol.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan drwy y botwm “Gweithredu” ar y dudalen hon.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8 Tachwedd 2016
Cynhelir cyfweliadau ar 18 Tachwedd 2016
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg yn ogystal, ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.