Cadeirydd

Location
Caerfyrddin
Salary
Honorariwm o £7,500 y flwyddyn
Posted
06 Oct 2016
Closes
20 Oct 2016
Ref
225050945-01
Contract Type
Permanent
Hours
Part Time

Cadeirydd
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno penodi Cadeirydd i wasanaethu’r Coleg am dymor o dair blynedd, gan ddechrau ar 1 Ebrill 2017.

Bydd y Cadeirydd yn cynnig arweiniad cadarn a chyson i Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg mewn perthynas â chyfeiriad strategol y Coleg ynghyd ag arweiniad ar ei holl gyfrifoldebau a gweithgareddau gan sicrhau y safonau llywodraethu corfforaethol uchaf. Bydd yn cydweithio yn agos gyda’r Prif Weithredwr ac yn gweithredu fel prif lefarydd y Coleg yn allanol gan ymwneud â’r sefydliadau addysg uwch, y Wasg, a Llywodraeth Cymru.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o arweinyddiaeth drefniadaethol ar lefel strategol yn y sectorau cyhoeddus neu breifat. Bydd dealltwriaeth o faterion addysgol yn allweddol - gan gynnwys gwybodaeth am addysg uwch, ac yn arbennig addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ynghyd â’r gallu i gysylltu’r wybodaeth honno ag anghenion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru, a gydag anghenion unigolion, cymunedau a chyflogwyr. Bydd hefyd angen sensitifrwydd i faterion dadleuol ac ymwybyddiaeth wleidyddol gref ynghyd â dealltwriaeth o gyd-destun gwleidyddol Cymru.

Disgwylir ymrwymiad o tua dau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Telir honorariwm o £7,500 y flwyddyn ac ad-delir costau yn unol â pholisi costau’r Coleg.

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir y penodiad ar sail teilyngdod.

Dyddiad Cau: 20 Hydref 2016

Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg gan y botwm “Gweithredu” ar y dudalen hon.

The above advertisement is for a Chair of the Board for Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, for which Welsh language skills are essential.