Pennaeth Rheoleiddio
- Recruiter
- Cyngor Gwynedd Swyddi
- Location
- Gwynedd
- Salary
- £65,148 - £72,385
- Posted
- 27 Sep 2016
- Closes
- 13 Oct 2016
- Ref
- 225045833-01
- Sectors
- Public Sector
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Cyngor Gwynedd Swyddi
Pennaeth Rheoleiddio (Cynllunio ac Amgylchedd,Trafnidiaeth a Gofal Stryd, Gwarchod y Cyhoedd ac Eiddo)
Cyflog : £65,148 - £72,385
Oes gennych y gallu i arwain Adran sy’n ceisio sicrhau’r budd mwyaf i bobl Gwynedd ac hynny yn ystod cyfnod o hinsawdd ariannol heriol? `Rydym yn edrych am arweinydd creadigol ac arloesol i gefnogi ein Haelodau i wireddu’r weledigaeth flaengar sydd gan y Cyngor ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Cyngor yn le arbennig ac unigryw i weithio, gyda gweithlu ac Aelodau etholedig brwdfrydig ac ymroddgar sydd am wneud eu gorau dros bobl Gwynedd. Mae’r Cyngor yn cael ei gydnabod yn gyson fel un o’r perfformwyr gorau ymysg holl awdurdodau Cymru a’r her i’r dyfodol yw i’r Cyngor barhau i sicrhau darpariaeth gwasanaethau o ansawdd mewn cyfnod o gynni ariannol eithriadol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad eang o arwain o fewn cyfundrefn fawr a chymhleth tra’n gallu arddangos enghreifftiau o lwyddiannau personol yn cyflawni, rheoli newid a gwella perfformiad.
Os yr ydych yn barod am her, o’r farn eich bod yn ateb y gofynion o fedru cyflawni yn gyson o ddydd i ddydd, yn ogystal a gallu cydweithio gydag arweinyddiaeth y Cyngor i greu strategaeth glir a chyffrous mewn sefydliad cyhoeddus blaengar, yna byddem yn croesawu eichcais.
Am fwy o wybodaeth, neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch e-bost gan the following y cyfarwyddiadau i waelod y dudalen hon.
Dyddiad cau: 10-00 am ar 13 Hydref, 2016
This is an advert for the post of Head of the Regulatory Department (Planning and Environment, Transport and Street Care, Public Protection and Property), for which the ability to communicate in Welsh and English is essential.