Welsh Language Editor

Location
Newport, Newport (Casnewydd)
Salary
competitive
Posted
19 Sep 2016
Closes
03 Oct 2016
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

ONS

Welsh Language Editor

About the role

Here at the Office for National Statistics (ONS) we run the largest peacetime mobilisation of resources: the census. Every 10 years, for over 200 years, every household in England and Wales has been required to respond to the census. It provides population statistics that will be used by planners, policy makers and researchers across the public, private and voluntary sectors for years to come. Information that will help our nation to make better decisions.

Ensuring that the Welsh-speaking public have access to complete, accurate and high quality information about the Census programme is key to making sure that as many people as possible take part in the 2021 Census. Joining our inclusive Public Support team as Welsh Language Editor, we’ll look to you to assist with the design and implementation of the bilingual aspects of our Public Support services. Collaborating with teams across the Census programme, you’ll ensure we deliver a full suite of content that will engage the Welsh-speaking population. From researching and writing copy to testing our bilingual online services – this varied role will develop as the programme progresses. It’s an exciting opportunity to play a key role in a national campaign as you help us prepare and deliver critical information to the Welsh-speaking public.

The post can be located in Newport, S. Wales, or in Titchfield, Hampshire. Some flexibility may be available for working from home for a portion of the week. Some (paid for) travel to Titchfield will be required, the frequency of which is negotiable.

About you

An experienced digital communicator with editorial experience in Welsh and English, you’re a proactive self-starter who’s calm and flexible in the face of changing priorities. A great team player, your friendly demeanour and inclusive communication style will enable you to work with a wide range of people. Ultimately, we’re looking for a person to join us who is passionate about their work and the people they serve. And of course, you’ll also need to be fluent in both Welsh and English.

About us

The Office for National Statistics shapes the nation, informing debate and improving decision making across the country – from businesses to government agencies. As the largest producer of official statistics, we compile and analyse a vast amount of data that has an impact on nearly every aspect of our lives.

Apply

To find out more about and apply, please click the apply button.

Closing date: 3rd October 2016

Qualifications - preferred

Degree in an associated subject, or equivalent professional experience.

 

 

Swyddfa Ystadegau Gwladol

Golygydd Cymraeg

Ynglŷn â’r swydd

Yma yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol rydym yn cynnal y rhaglen fwyaf o grynhoi adnoddau mewn cyfnod o heddwch: y cyfrifiad. Bob 10 mlynedd, ers dros 200 o flynyddoedd, bu’n ofynnol i bob cartref yng Nghymru a Lloegr ymateb i’r cyfrifiad. Mae’n darparu ystadegau poblogaeth a fydd yn cael eu defnyddio gan gynllunwyr, llunwyr polisi ac ymchwilwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol am flynyddoedd i ddod. Gwybodaeth a fydd yn helpu ein cenedl i wneud gwell penderfyniadau.

Mae sicrhau bod gan y cyhoedd Cymraeg fynediad at wybodaeth gyflawn, gywir ac o ansawdd uchel am raglen y Cyfrifiad yn allweddol i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021. Wrth ymuno â’n tîm Cymorth Cyhoeddus cynhwysol yn Olygydd Cymraeg, byddwch yn ein helpu i ddylunio a gweithredu agweddau dwyieithog ar ein gwasanaethau Cymorth Cyhoeddus. Gan gydweithredu â thimau amrywiol rhaglen y Cyfrifiad, byddwch yn sicrhau ein bod yn cyflwyno ystod gyfan o wybodaeth ar gyfer y boblogaeth Gymraeg. Bydd y swydd amrywiol hon, a fydd yn cynnwys ymchwilio ac ysgrifennu testun a phrofi ein gwasanaethau dwyieithog ar-lein, yn datblygu wrth i’r rhaglen fynd rhagddi. Mae’n gyfle cyffrous i fod yn rhan allweddol o ymgyrch genedlaethol wrth i chi ein helpu i baratoi a chyflwyno gwybodaeth hollbwysig i’r cyhoedd Cymraeg.

Gall y swydd fod wedi ei lleoli yng Nghasnewydd, De Cymru, neu yn Titchfield, Hampshire. Gallai fod rhywfaint o hyblygrwydd i weithio gartref am ran o’r wythnos. Bydd yn ofynnol i deithio i Titchfield weithiau (telir am hyn) a gellir trafod pa mor aml y bydd yn rhaid gwneud hyn.

Amdanoch chi

Rydych yn gyfathrebwr digidol profiadol â phrofiad o olygu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydych chi’n cymell eich hun yn rhagweithiol, rydych chi’n hyblyg yn wyneb blaenoriaethau newidiol ac nid ydych yn cynhyrfu pan fo hyn yn digwydd. Rydych chi’n aelod da o dîm, a bydd eich agwedd gyfeillgar a’ch dull cynhwysol o gyfathrebu yn eich galluogi i weithio gydag ystod eang o bobl. Yn y pen draw, rydym yn chwilio am rywun i ymuno â ni sy’n frwdfrydig am ei waith a’r bobl y mae’n eu gwasanaethu. Ac wrth gwrs, bydd angen i chi hefyd fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Amdanom ni

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn llywio’r genedl, yn hysbysu trafodaethau ac yn gwella prosesau gwneud penderfyniadau ledled y wlad – o fusnesau i asiantaethau’r llywodraeth. Fel y corff mwyaf sy’n creu ystadegau swyddogol, rydym yn casglu ac yn dadansoddi llawer iawn o ddata sy’n effeithio ar bron pob agwedd ar ein bywydau.

Ymgeisio

I gael gwybod rhagor a gwneud cais, cliciwch ar y botwm ymgeisio.

Cymwysterau – dymunol

Gradd mewn pwnc cysylltiedig, neu brofiad proffesiynol cyfwerth

Dyddiad Cau: 3 Hydref 2016