Crefftwr Arddangos - Holltwr

Location
Llanberis, Gwynedd
Salary
Gradd D £21,234.84 - £27,348.44 y flwyddyn
Posted
30 Aug 2016
Closes
21 Sep 2016
Ref
225024143-01
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Crefftwr Arddangos - Holltwr

  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Gwynedd
  • 35 awr yr wythnos
  • Cyflog: Gradd D £21,234.84 - £27,348.44 y flwyddyn
  • Hyd Contract: Parhaol

Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru am benodi Crefftwr Arddangos - Holltwr i ymuno â’n tîm arbenigol yn Amgueddfa Lechi Cymru, un o’n prif safleoedd treftadaeth, sy’n denu dros 130,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â chymwysterau technegol ac yn medru arddangos y dulliau traddodiadol o hollti llechi ayb, gan gyfathrebu’n hyderus gydag ymwelwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd hefyd yn cyd-weithio i ddatblygu cyfleoedd prentisiaeth a profiad gwaith yn yr Amgueddfa.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 21 Medi 2016 (Cyn 5yh)

Am ddisgrifiad swydd llawn a manylion ymgeisio, ewch i’n gwefan drwy y botwm “Gweithredu” ar y dudalen hon.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

More searches like this