Gweithredwyr Pacio
- Recruiter
- South Caernarfon Creameries Ltd*
- Location
- Chwilog, Pwllheli
- Salary
- Cystadleuol
- Posted
- 15 Aug 2016
- Closes
- 09 Sep 2016
- Ref
- 225011000-01
- Contact
- Kevin Holdsworth
- Sectors
- Manufacturing & Industrial
- Contract Type
- Permanent
Mae Hufenfa De Arfon Cyf yn Gwmni Cydweithredol Ffermwyr Llaeth sy’n prosesu llaeth i gynhyrchion caws a menyn i gyflenwi marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym newydd agor ffatri cynhyrchu caws newydd a chyda rhagor o gynlluniau twf, felly mae swydd parhaol wedi codi fel a ganlyn:
Gweithredwyr Pacio
Yn atebol i’r Rheolwr Gweithrediadau Pacio, byddwch yn ymuno ag amgylchedd pacio cyflym ac yn gyfrifol am weithio ar linellau pacio caws amrywiol. Mae’r swydd yn galw am y gallu i weithio o fewn tîm gyda llygad craff i fanylder er gwirio safon cynnyrch.
Yn ddelfrydol, mae angen i’r ymgeisydd fod â phrofiad blaenorol o weithio o fewn amgylchedd cynhyrchu bwyd. Nid yw hynny yn angenrhaid oherwydd rhoddir hyfforddiant llawn. Oriau gwaith arferol yw 39 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener. Gellir ystyried oriau gwaith rhan amser ar gyfer y swydd hon. Mae’n bosib y bydd y swydd yn cynnwys gwaith shifft pan fo angen er mwyn cyflawni gofynion cynhyrchiant.
I ofyn am ffurlfen gais, e-bost i Kevin Holdsworth (Cydlynydd AD) drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen hon.
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Gwener, 9fed Medi 2016