Gweithredwyr Llinellau a Pheiriannau Pacio
- Recruiter
- South Caernarfon Creameries Ltd*
- Location
- Chwilog, Pwllheli
- Salary
- Cystadleuol
- Posted
- 15 Aug 2016
- Closes
- 09 Sep 2016
- Ref
- 225011000-01
- Contact
- Kevin Holdsworth
- Sectors
- Manufacturing & Industrial
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Mae Hufenfa De Arfon Cyf yn Gwmni Cydweithredol Ffermwyr Llaeth sy’n prosesu llaeth i gynhyrchion caws a menyn i gyflenwi marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym newydd agor ffatri cynhyrchu caws newydd a chyda rhagor o gynlluniau twf, felly mae swydd parhaol wedi codi fel a ganlyn:
Gweithredwyr Llinellau a Pheiriannau Pacio
Yn atebol i’r Rheolwr Gweithrediadau Pacio, mae’r swydd hon yn cynnwys gosod, addasu a gweithredu peiriannau pacio caws. Byddwch yn gyfrifol am bacio cynnyrch yn unol â rhaglenni pacio caws a sicrhau bod effeithlonrwydd peiriannau yn cael eu cyflawni, ynghyd â chynnal lefelau glanweithdra, safon a diogelwch uchel.
Yn ddelfrydol, mae angen i’r ymgeisydd fod â phrofiad blaenorol o weithredu peiriannau o fewn y diwydiant bwyd. Mae’n rhaid i chi fod yn frwdfrydig, dibynadwy, hyblyg ac yn gallu gweithio 39 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’n bosib y bydd y swydd hon yn cynnwys gwaith shifft i gyflawni gofynion cynhyrchiant.
I ofyn am ffurlfen gais, e-bost i Kevin Holdsworth (Cydlynydd AD) drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen hon.
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Gwener, 9fed Medi 2016