Peiriannydd Cynnal A Chadw Trydan
- Recruiter
- South Caernarfon Creameries Ltd*
- Location
- Chwilog, Pwllheli
- Salary
- Cystadleuol
- Posted
- 15 Aug 2016
- Closes
- 09 Sep 2016
- Ref
- 225011000-01
- Contact
- Kevin Holdsworth
- Sectors
- Engineering, Electrical
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Mae Hufenfa De Arfon Cyf yn Gwmni Cydweithredol Ffermwyr Llaeth sy’n prosesu llaeth i gynhyrchion caws a menyn i gyflenwi marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym newydd agor ffatri cynhyrchu caws newydd a chyda rhagor o gynlluniau twf, felly mae swydd parhaol wedi codi fel a ganlyn:
Peiriannydd Cynnal A Chadw Trydan
Yn atebol i’r Rheolwr Peirianneg, mae angen peiriannydd cynnal a chadw trydan i ymuno a thîm peirianwyr proffesiynol a llwyddiannus iawn. Bydd yn gweithio o fewn ffatri fodern newydd ar system gwaith shifft sy’n cylchdroi pob 7 diwrnod. Mae’r swydd yn delio â phob agwedd o waith trydanol ac electronig. Mae hynny yn cynnwys gosod gwasanaethau trydanol a pheiriannau cynhyrchu, dadansoddi a chyweirio problemau cylchedau trydanol ac offer cynhyrchu amrywiol, a chwblhau gwaith cynnal a chadw ataliol fel sy’n angenrheidiol o fewn yr amserlen gwaith.
Mae angen i’r ymgeisydd fod yn drydanwr cymwys gyda phrofiad, ac yn ddelfrydol gyda chefndir o waith cynnal a chadw trydanol o fewn amgylchedd cynhyrchiant neu brosesu. Mae profiad blaenorol o weithio gyda PLC’s a gwybodaeth beiriannol fecanyddol sylfaenol yn fanteisiol i’r ymgeisydd llwyddiannus.
I ofyn am ffurlfen gais, e-bost i Kevin Holdsworth (Cydlynydd AD) drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen hon.
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Gwener, 9fed Medi 2016