Swyddog AD
- Recruiter
- Bangor University
- Location
- Bangor, Gwynedd
- Salary
- Graddfa 7: £31,656 - £37,768 y.f.
- Posted
- 12 Aug 2016
- Closes
- 29 Aug 2016
- Sectors
- Human Resources
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
PRIFYSGOL BANGOR
ADNODDAU DYNOL
Swyddog AD
Graddfa 7: £31,656 - £37,768 y.f.
(Cyf: BU01227)
Mae cyfle i weithiwr proffesiynol AD profiadol ymuno â'r Adran Adnoddau Dynol. Byddwch yn cefnogi’r Dirprwy Gyfarwyddwr AD (Gweithrediadau) i ddarparu gwasanaeth Adnoddau Dynol cyffredinol ac ymgynghorol i adrannau academaidd penodol ac adrannau cefnogaeth broffesiynol penodol. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i reolwyr a staff yn y meysydd hyn, yn eu cynghori ar bob mater yn ymwneud â staffio, megis cysylltiadau â gweithwyr a recriwtio a dethol. Byddwch hefyd yn cefnogi maes penodol o ddatblygiad sefydliadol strategol a rhagwelir y bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel y brif ffynhonnell o arbenigedd ar systemau, prosesau a chanlyniadau gwobrwyo.
Byddwch wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol, yn meddu ar gymhwyster y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, ac ar brofiad cyffredinol. Fel chwaraewr tîm, byddwch hefyd yn gallu gweithio'n annibynnol a rhaid i chi fod wedi ymrwymo i ddarparu lefel uchel o wasanaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg a chyflawni tasgau megis ysgrifennu negeseuon e-bost yn Gymraeg at amrywiaeth o gynulleidfaoedd yn hanfodol i’r swydd hon. Croesewir ceisiadau gan rai sydd wedi ymrwymo i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg i’r safon hon.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, mewn achosion lle ceir trafferth i ddefnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: ddydd Gwener, 29 Awst 2016.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal