Swydd Weinyddol
- Recruiter
- Neuadd Ogwen*
- Location
- Bethesda, Gwynedd
- Salary
- Cyflog i’w drafod
- Posted
- 03 Aug 2016
- Closes
- 26 Aug 2016
- Ref
- 225003937-01
- Sectors
- Admin, Secretarial & PA
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Swydd Weinyddol
Oriau: 16 neu fwy
Cyflog i’w drafod
Mae hwn yn gyfle cyffroes i fod yn rhan o brosiect Neuadd Ogwen sydd yn ganolfan celfyddydol gymunedol yn Bethesda, Gwynedd.
Disgrifiad
1. Cynnal y swyddfa weinyddol: ffeilio unrhyw ohebiaeth ac ati; paratoi, cofnodi a danfon pob post sy’n mynd allan; cofnodi’r holl bost sy’n dod i mewn; ateb y ffôn a chofnodi a throsglwyddo negeseuon.
2. Prosesu a dilyn i fyny ar unrhyw ymholiadau ffôn, e-bost, post gan gwsmeriaid.
3. Paratoi, prosesu a chofnodi pob anfoneb ar gyfer cwsmeriaid Neuadd Ogwen.
4. Prosesu, talu a chofnodi pob anfoneb sy’n dod i Neuadd Ogwen.
5. Darparu gohebiaeth weinyddol ar gyfer cwsmeriaid a chyflenwyr.
6. Paratoi datganiadau Elw a Cholled gyda sylwadau ar gyfer y Neuadd Ogwen yn gyson ac yn llawn yn fisol ar gyfer y Rheolwr a’r Bwrdd Rheoli.
7. Bod yn aelod effeithiol o dîm drwy:
a) Fynychu a chyfrannu at gyfarfodydd tîm.
b) Gweithio ar y cyd gyda holl aelodau’r tîm a phartneriaid allanol.
c) Cynnal cysylltiadau cyfathrebu gyda holl aelodau’r tîm a chwsmeriaid.
d) Cynnal yr holl dasgau cyfeirio mewn modd amserol.
8. Sicrhau bod pob agwedd o ofynion cyfreithiol yn cael eu dilyn yn cynnwys; Iechyd a Diogelwch, Deddf Cydraddoldeb a Diogelu Data.
9. Perfformio rôl rheolwr ar ddyletswydd.
10. Cyfrannu at geisiadau grant mewn ymgynghoriad a Rheolwr Neuadd Ogwen.
Manyleb y Person
Gofynion Hanfodol
1.Defnydd cymwys o Microsoft Office yn enwedig Word, Excel.
2. Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
3. Yn ardderchog mewn bod yn drefnus, gweinyddol, cyfathrebu, rheoli amser, sgiliau rhyngbersonol a gofal cwsmeriaid.
4. Agwedd hyblyg, bywiog a brwdfrydig i weithio.
5. Y gallu i ddilyn targedau a chyfarwyddiadau.
6. Lefel dda o rifedd a gallu i weithredu til arian yn effeithlon.
7. Agwedd ymarferol tuag at sgiliau datrys problemau.
8. Hyblygrwydd i oriau gwaith.
9. Profiad a gallu i weithio fel rhan o dîm bach.
Llythu’r cais a CV drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen hon.
Dyddiad cau: 26.8.16 6yh
This is an admin post with the ability to communicate in Welsh essential