Marketing & Communications Officer

Location
Mid and South Wales
Salary
£24,587 per annum
Posted
29 Jul 2016
Closes
25 Aug 2016
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Marketing & Communications Officer

Salary: £24,587 per annum
Contract: Permanent, full time (37.5 hours per week)
Location: Mid and South Wales
Job ref: IRC40357

Byddwch yn arwain ar waith i ddatblygu a gweithredu Strategaeth Farchnata & Chyfathrebu ar gyfer Cefn Gwlad ac Arfordir De-Ddwyrain a Chanolbarth Cymru. Byddwch yn datblygu deunyddiau cyfathrebu a marchnata fel y gall y meddiannau hybu’n gwaith yn yr ardaloedd hyfryd hyn. Byddwch yn helpu i rannu ein straeon gyda chydweithwyr, ymwelwyr, cymunedau lleol a chynulleidfa ehangach. Bydd y rôl yn golygu gweithio gyda rheolwyr eraill a dylanwadu arnyn nhw.

Nodwch fod hon yn swydd sy’n gofyn am y gallu i weithio a chyfathrebu yn Gymraeg. Mae’n hanfodol fod y person yn gallu darllen, siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl ac yn hyderus. Rydym am i’r swydd hon hybu’n uchelgais o greu awyrgylch gwaith gwbl ddwyieithog yn ein meddiannau.

Mae Cefn Gwlad ac Arfordir De-Ddwyrain a Chanolbarth Cymru yn cynnwys rhai o fannau mwyaf eiconig Cymru. Yn eu plith mae Pen-y-Fan a Phen-y-Fâl yng nghanol Bannau Brycheiniog & Sir Fynwy, arfordir Penrhyn Gŵyr yn cynnwys Pen y Pyrod, traeth Rhosili a hefyd traeth Mwnt a stad Llanerchaeron yng Ngheredigion.

You will lead the development and delivery of the Marketing and Communications strategy for Mid and South East Wales Coast & Countryside. You will develop and deliver marketing and communications to enable the properties to promote our work on these special places. You will help to share our stories with our colleagues, visitors, local communities and a wider audience. The role will work with and influence other managers.

Please note this role requires the ability to communicate and work in Welsh. The postholder will be able to read, write and speak Welsh fluently and confidently, and will champion our goal of developing a bilingual working environment at our properties.

The Mid and South East Wales Coast and Countryside consists of some of Wales most iconic places, such as the Pen y Fan and the Sugarloaf in the Brecon Beacons & Monmouthsire, the Gower coast including the Wormshead, Rhossili beach and Ceredigion’s Mwnt beach and Llanerchaeron estate to name just a few of its properties.

About the role

Hanfod y swydd hon yw defnyddio sgiliau i gyfathrebu gyda’n cynulleidfaoedd. Byddwch yn ysgrifennu cynnwys difyr a gafaelgar ar gyfer cyfryngau digidol, datganiadau i’r wasg ac yn gwneud gwaith fel golygydd marchnata ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol. Fe fyddwch yn hyderus gyda chyfryngau digidol a chyfrwng print a hefyd wrth gysylltu gyda’r wasg. Mae’r swydd yn golygu ymchwilio a chreu cynnwys unigryw sy’n ymateb i’r angen; byddwch yn helpu cynyddu cefnogaeth ar gyfer y gwaith ry’n ni’n ei wneud; byddwch yn datblygu strategaeth ar gyfer defnyddio llwyfannau e-farchnata er mwyn hybu meddiannau o fewn y portfolio hwn, yn cynnwys datblygu mesurau llwyddiant clir a dulliau gwerthuso.

Byddwch yn helpu arwain a chydlynu’r gwaith o gasglu data a gwneud gwaith gwerthuso trwy sianeli casglu gwybodaeth megis ymchwil i’r farchnad, ac ati. Bydd eich mewnbwn a’ch gwerthusiad yn helpu creu rhagor o fusnes, mwy o gefnogaeth a rhoddion, a bydd yn gwella proffil y portfolio a’r timau sy’n gweithio yma. Mae’r swydd yn golygu bod yn bencampwr ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwch yn cynghori cydweithwyr o fewn y meddiannau, yn enwedig y pedwar rheolwr Cefn Gwlad a Gweithrediadau, gan adnabod cyfleoedd a bygythiadau i enw da’r meddiannau. Byddwch yn defnyddio ac yn hyrwyddo ‘arferion da’ a brand yr Ymddiriedolaeth. Mae cefnogi timau’r portffolio yn rhan allweddol o’r rôl.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyffredinol, y Rheolwyr Cefn Gwlad a Gweithrediadau a fe fyddwch yn chwarae rhan fel aelod o dîm Arweinyddiaeth y Portffolio. Byddwch yn gweithio gyda thimau o staff mewn gwahanol feddiannau, a gallwch ddewis gweithio o un o dri lleoliad yng Nghymru – Dinefwr, Penrhyn Gŵyr neu Lanerchaeron.

Mae Parc Dinefwr yn dirwedd a gynlluniwyd yn y 18fedG. Mae’r safle hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru. Mae’r safle’n cynnwys gwarchodfa natur genedlaethol a pharc ceirw canol-oesol, yn ogystal â Thŷ Newton sy’n rhoi blas o fywyd yn 1912 i’n hymwelwyr. Mae ein staff yn gweithio o swyddfeydd yn hen ffermdy’r stad (yr Home Farm).

Mae cefn gwlad ac arfordir hardd Penrhyn Gŵyr yn enwog ac yn denu llawer o ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Mae ein staff yn gweithio o swyddfeydd yn South Pilton Green ger Rhosili.

Mae Llanerchaeron yn dŷ gwledig urddasol Sioraidd yng nghanol Dyffryn Aeron. Mae’n enghraifft hynod o stad fechan hunan-gynhaliol sydd wedi goroesi heb ei newid llawer dros y 200 mlynedd ddiwethaf. Mae swyddfeydd ein staff mewn cyfres o alldai sydd wedi cael eu hadfer yn fendigedig ac sy’n rhan annatod o hanes a bywyd y stad wledig hon.

Bydd eich swydd hefyd yn rhoi cyfle i chi weithio mewn mannau eraill sy’n rhan o’n portffolio, yn Aberdulais ger Castell Nedd a hefyd yn Dan y Gyrn ger Libanus, Aberhonddu.

It’s about using your skills to communicate to our audiences: You will write creative engaging content for digital media, press releases and editorial marketing for external and internal audiences. You will be confident with digital media, print and PR. It’s about researching and creating unique, responsive content: you will help grow support for the work we do: You will develop a strategy for utilising e-marketing platforms to promote the portfolio’s properties which includes clear success measures and methods of evaluation.

You will help coordinate and lead on the gathering of data and evaluation through insight channels such as market research etc. Your evaluation and input will help generate more business, support, donations and will enhance the profile of the portfolio and its teams. It’s about championing the National Trust. You will act as advisor to property colleagues especially the four Countryside and Operations mangers helping identify opportunities and reputational threats. You will utilise ‘best practice’ and use of the trust’s brand. It’s about supporting the property teams.

You will be working closely with the General Manager, Operational and Countryside Managers and play your part in the Portfolio leadership team. You will be working with the property teams throughout the area but you can choose to work from one of three locations in Wales - Dinefwr, Gower or Llanerchaeron.

Dinefwr Park is an iconic 18th-century landscape and is an important place in Welsh history. The landscape is home to a national nature reserve and a medieval deer park, as well as Newton House which gives our visitors a 1912 experience. Our staff are based in offices at Home Farm.

Gower is renowned for its beautiful coast and countryside and attracts many visitors all year round. Our staff work from offices at South Pilton Green near Rhossili.

Llanerchaeron is an elegant Georgian villa, set in the wooded Aeron valley. It is a remarkable example of a small self-sufficient estate that has remained largely unaltered for over 200 years. Our staff are based in the range of beautifully restored outbuildings that have always been an integral part of life on this rural estate.

Your role will also give the opportunity to work at our other portfolio properties at Aberdulais near Neath and Dan y Gyrn near Libanus, Brecon.

About you

Sut fath o berson ydyn ni’n chwilio amdano?

  • Cymhwyster neu brofiad sylweddol mewn maes marchnata/ cyfathrebu.
  • Gwybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio marchnata a chyfathrebu yn effeithiol i gyrraedd cynulleidfaoedd.
  • Dealltwriaeth o dechnegau ar gyfer creu deunyddiau marchnata a chyfathrebu effeithiol, ar draws yr holl sianeli marchnata.
  • Dealltwriaeth o reolaeth brand.
  • Sgiliau darllen a phrawfddarllen, a’r gallu i dalu sylw i’r manylion lleiaf ym mhob math o gyfrwng.
  • Yn gallu canolbwyntio ar ganlyniadau, yn gallu ysgogi ei hun, ac yn fodlon mentro dilyn ei syniadau.
  • Yn dda am adeiladu perthynas gyda phobl eraill, a sgiliau dylanwadu a pherswadio cryf.
  • Yn gallu gwerthuso, gyda sgiliau dadansoddi da.
  • Yn drefnus ac yn gallu rheoli sawl blaenoriaeth ar yr un pryd, ac ymdopi gyda phwysau gwaith sy’n newid drwy’r amser.
  • Sgiliau dylunio ac yn deall TG/llwyfannau amlgyfrwng.
  • Person sy'n berchen ar gar ac sy'n gallu gyrru i wahanol feddiannau.

Who we're looking for

  • Marketing/communications qualification or proven experience.
  • Knowledge of how to effectively use marketing and communication to reach audiences.
  • Understanding of techniques for producing effective marketing and communications materials, across all marketing channels.
  • Understanding of brand management.
  • Excellent writing and proof-reading skills with attention to detail for different media.
  • Results focussed, self-motivated and able to work on own initiative.
  • Strong relationship builder, with influencing and persuasion skills.
  • Evaluator with good analytical skills.
  • Well organised and able to manage multiple priorities and varying pressures.
  • Design skills and multimedia/IT literate.

The package

Looking after you

  • Health cash plan – from as little as £2.81 per month for you and your dependents
  • Pension contribution match up to 10%
  • EAP and proactive Health and Wellbeing
  • Discounted gym membership

Looking after your career

  • Grow your career through professional training courses across the Trust
  • Develop your skills with an internal secondment
  • Pay review linked to values and behaviours, commitment to progression
  • Income protection due to illness

Unique to us

  • Work in some of the most beautiful, iconic and unique locations in the UK
  • Free entry to NT properties for you, a guest and your children (under 18)
  • 20% off in our retail and catering outlets
  • Discount up to 35% off a National Trust holiday cottage booking

How to apply

For more information and to apply for this vacancy please click apply.

Closing date: 25 August 2016.