Rheolwr Bywyd Preswyl
- Recruiter
- Bangor University*
- Location
- Bangor, Gwynedd
- Salary
- £21,605 - £24,298 p.a ar Radd 5
- Posted
- 25 Jul 2016
- Closes
- 12 Aug 2016
- Ref
- 224995303-01
- Sectors
- Education & Teaching, Public Sector
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Rheolwr Bywyd Preswyl
Cyf: BU01117
Cyflog: £21,605 - £24,298 p.a ar Radd 5
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser barhaol uchod yn gweithio gyda’r tîm Bywyd Preswyl yn yr Adran Neuaddau Preswyl.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, egnïol, â chymhelliant uchel i gyflawni anghenion cymunedol myfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae hon yn swydd allweddol, yn cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu, marchnata, hyrwyddo a chynnal rhaglen o ddigwyddiadau Campws Byw i fyfyrwyr preswyl. Ar adegau prysur, mae hon yn swydd heriol lle mae angen agwedd dawel, gadarnhaol a pharod. Byddwch yn gweithio’n rhagweithiol fel rhan o’r tîm Bywyd Preswyl gan ganolbwyntio ar wasanaeth cwsmer i fyfyrwyr a chyfoethogi profiad myfyrwyr.
Rhaid eich bod yn meddu ar addysg i safon TGAU, NVQ Lefel III (neu gyfwerth) mewn pwnc priodol, neu brofiad sy’n cyfateb i hynny.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg, neu fod yn barod i ddysgu, yn hanfodol i’r swydd hon.
Bydd ceisiadau ond yn cael eu derbyn trwy ein gwefan recriwtio ar-lein, gan y botwm “Gweithredu” ar y dudalen hon. Er hynny, os ceir anhawster i ddefnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 12 Awst 2016