Aelod annibynnol

Recruiter
Llywodraeth Cymru / Welsh Government*
Location
Cardiff (Caerdydd)
Salary
yn cyfateb i £ 56,316 y flwyddyn
Posted
08 Jul 2016
Closes
05 Aug 2016
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

PENODI IS-GADEIRYDDION AC AELODAU ANNIBYNNOL I GIG CYMRU

Mae gennym nifer o gyfleoedd cyffrous i helpu i lywio dyfodol gofal iechyd yn GIG Cymru trwy ymgymryd â rôl Aelod Annibynnol ar Fwrdd. Rydym yn hysbysebu rolau mewn nifer o Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru felly beth am fod yn rhan o'r gwaith o wneud gwahaniaeth i'ch gwasanaethau iechyd yn GIG Cymru?

Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio, dylunio, datblygu a sicrhau y darperir gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal mewn ysbytai a, lle bo hynny’n briodol, am wasanaethau arbenigol ar gyfer dinasyddion yn eu hardaloedd eu hunain, er mwyn bodloni'r anghenion lleol.

Rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau mewn sawl bwrdd iechyd, a nodir isod. Rydym yn chwilio am Is-gadeiryddion, aelodau Llywodraeth Leol ac aelodau annibynnol.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfle cyffrous i helpu i lywio dyfodol iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac i helpu i gyflawni gwelliant sylweddol i iechyd a llesiant y boblogaeth. Mae angen i'r ymddiriedolaeth ymateb i fygythiadau iechyd, mynd i'r afael â heriau iechyd corfforol a meddwl a deall y ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ein hiechyd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am aelod annibynnol o'r bwrdd (llywodraeth leol) sy'n gallu cyfrannu'n frwd at yr agenda hon drwy ddatblygu perthnasau gwaith da, dwyn y gweithredwyr i gyfrif a chynnig eu safbwynt annibynnol i'r Bwrdd. Rhaid bod gan yr ymgeiswyr brofiad o weithio mewn neu gydag awdurdodau lleol yng Nghymru ond nid yw'n angenrheidiol i'r profiad fod ar lefel uwch. Felly, os oes gennych ddymuniad gwirioneddol i helpu i wella iechyd a llesiant pobl Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dymuno clywed gennych chi.

Rydym yn recriwtio i'r byrddau canlynol:

Abertawe Bro Morgannwg – Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

Aneurin Bevan – Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys

Caerdydd a'r Fro – Caerdydd a Bro Morgannwg

Powys – Gogledd, Dwyrain a Gorllewin Powys

Iechyd Cyhoeddus Cymru – Cymru Gyfan

Is-gadeirydd

Bydd yr Is-gadeirydd yn aelod o'r Bwrdd ac yn dirprwyo ar ran y Cadeirydd, os bydd yn absennol am unrhyw reswm. Yn ogystal â'i rôl gorfforaethol ar draws holl gyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd, bydd gan yr Is-gadeirydd gyfrifoldeb penodol i oruchwylio perfformiad y Bwrdd Iechyd o ran cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau iechyd sylfaenol, iechyd cymunedol ac iechyd meddwl i sicrhau model gofal cytbwys sy'n diwallu anghenion poblogaeth y Bwrdd Iechyd.

Aelodau Annibynnol

Disgwylir i Aelodau Annibynnol weithio gyda'u cyd-Gyfarwyddwyr Gweithredol i ddatblygu strategaeth a pholisi, a sicrhau dulliau llywodraethu cadarn. Disgwylir iddynt hefyd chwarae rhan weithredol i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau ac yn perfformio'n effeithiol ar lefel strategol a gweithredol. Bydd ganddynt rôl allweddol i'w chwarae o ran cyfathrebu a meithrin cysylltiadau yn y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth. Disgwylir iddynt hefyd gynnig safbwynt annibynnol i'r Bwrdd i herio cynlluniau ariannol a chynlluniau gwasanaethau, fel sy'n briodol.

Felly, beth am ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad i gyfrannu at waith y Bwrdd? Mae Byrddau'r GIG yn chwilio ar hyn o bryd am Aelodau Annibynnol i gyflawni'r rolau canlynol:

Is-gadeiryddion

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Aelodau Annibynnol

Band 4

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (3 swydd) – Cymunedol, Llywodraeth Leol a Chynllunio a Busnes

Band 2

  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (1 swydd) – Llywodraeth Leol

 

 

Gwneir y penodiadau ar sail teilyngdod, ond byddwn yn ystyried y gwasgariad daearyddol ar draws dalgylch y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth, a'r angen i gael amrywiaeth gytbwys o sgiliau.

Penodir yr Is-gadeirydd am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd, ac mae'r penodiad wedi'i seilio ar ymrwymiad tybiannol o un deg tri (13) diwrnod y mis o leiaf, ond bydd hynny'n amodol ar ofynion y sefydliad. Bydd yr Is-gadeirydd yn gymwys i dderbyn tâl cydnabyddiaeth, sy'n gyfwerth â £56,316 y flwyddyn.

Bydd yr Aelodau Annibynnol/Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cael eu penodi am hyd at bedair (4) blynedd ac mae'r penodiad wedi'i seilio ar ymrwymiad tybiannol o bedwar (4) diwrnod y mis o leiaf, ond bydd hynny'n amodol ar ofynion y sefydliad. Bydd gan aelodau cymwys yr hawl i gael tâl cydnabyddiaeth o £15,936 (Band 4) a £9,360 (Band 2) y flwyddyn.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, megis menywod, pobl anabl, ac unigolion o leiafrifoedd ethnig, a'r sgiliau sydd gennych i gyfrannu at y rôl hon.

I wneud cais ewch i: www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Nodwch mai 5 Awst 2016 yw'r dyddiad cau.

I gael fersiynau print bras, Braille, neu sain o'r hysbyseb hon, ffoniwch 029 2082 5454.