Aelod Annibynnol o’r Bwrdd (Awdurdod Lleol)

Location
Caerdydd
Salary
£9,360 y flwyddyn
Posted
07 Jul 2016
Closes
05 Aug 2016
Ref
224980931-01
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bodoli er mwyn diogelu a gwella iechyd a lles pobl Cymru a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Gan weithio ar draws sectorau, rydym wedi ymrwymo i barhau i wella ansawdd, tegwch ac effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarparwn a chefnogi’r GIG yn ehangach yng Nghymru i wella canlyniadau i gleifion.

Aelod Annibynnol o’r Bwrdd (Awdurdod Lleol)

Bydd y tâl yn cyfateb i £9,360 y flwyddyn

Rydym yn chwilio am ddau unigolyn brwdfrydig a deinamig - pobl y mae’r nod o wneud Cymru yn lle iachach, hapusach a thecach i fyw ynddo yn agos at eu calonnau - i ymuno â’n sefydliad, sy’n prysur ehangu, fel Aelod Annibynnol o’r Bwrdd. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar brofiad o weithio gyda neu o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru, ond nid o reidrwydd ar lefel uwch.

Mae Aelodau Annibynnol o’r Bwrdd yn gweithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwyr Gweithredol i ddatblygu cyfeiriad strategol, fframwaith llywodraethu corfforaethol a diwylliant sefydliadol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddant hefyd yn cyfrannu at agenda Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy ddatblygu perthynas waith dda, gan ddwyn y Cyfarwyddwyr Gweithredol i gyfrif a chyflwyno barn annibynnol i’r Bwrdd.

Mae iechyd cyhoeddus yn effeithio ar bawb felly rydym yn gwahodd ceisiadau gan bobl o gefndiroedd sy’n cynrychioli amrywiaeth poblogaeth Cymru. Nid yw profiad blaenorol fel Aelod Annibynnol o Fwrdd yn hanfodol, ond byddai diddordeb brwd yn yr agenda iechyd leol a chenedlaethol o fantais ynghyd â phrofiad presennol neu flaenorol o ymwneud ag awdurdodau lleol. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Penodir Aelodau Annibynnol o’r Bwrdd am gyfnod cychwynnol o hyd at bedair blynedd. Mae’r swydd yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiannol o bedwar diwrnod y mis o leiaf.

I wneud cais ewch i’n gwefan trwy y botwm “Gweithredu” ar y dudalen hon.

Y dyddiad cau yw 5 Awst 2016.

Mae modd cael fersiwn print bras, Braille neu sain o’r hysbyseb hwn ar gais drwy ffonio 029 2082 5454.

More searches like this