UWCH SWYDDOG GWEINYDDIAETH

Location
Carmarthen, Carmarthenshire (Sir Gaerfyrddin)
Salary
£30,738 - £34,576
Posted
24 Jun 2016
Closes
13 Jul 2016
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

UWCH SWYDDOG GWEINYDDIAETH

CYFLOG CYCHWYNNOL: £30,738 - £34,576

LLEOLIAD: Caerfyrddin

Bydd yr Uwch Swyddog Gweinyddiaeth yn gyfrifol am sicrhau trefniadaeth a gweinyddiaeth effeithlon i’r Coleg, arwain ar waith gweinyddu cronfa ddata aelodaeth y Coleg gan gynnwys gweinyddu a monitro ysgoloriaethau’r Coleg, gweithredu fel swyddog Adnoddau Dynol a rheoli pob agwedd o weithrediad dyddiol swyddfeydd y Coleg.

Bydd gennych brofiad diweddar o sefydlu a gweithredu systemau a gweithdrefnau cefnogi a gweinyddu, profiad o drin data yn fanwl-gywir ynghyd â’r gallu i gynllunio a blaenoriaethu gwaith. Byddai cymhwyster
a/neu brofiad o waith adnoddau dynol yn fanteisiol iawn ynghyd â phrofiad o reoli staff.

Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf 2016

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Fuddsoddwr mewn Pobl ac yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.

This advertisement is for a Senior Administration Officer for which Welsh language skills are essential