Clerc Y Dref

Location
Y Barri, De Morgannwg
Salary
£46,264 i £52,335 (ac atodiad staff o £3,336)
Posted
31 May 2016
Closes
19 Jun 2016
Ref
224950443-01
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cyngor Tref Y Barri

Clerc Y Dref

Cyflog: £46,264 i £52,335 (ac atodiad staff o £3,336) – mae codiad cyflog yn yr arfaeth

Mae Cyngor Tref Y Barri yn ceisio penodi Clerc y Dref newydd, sef y swyddog uchaf fydd yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am waith y Cyngor a helpu datblygu a gweithredu ei strategaeth flaengar a’r cynlluniau cysylltiol.

Gan weithio o swyddfeydd y Cyngor Tref ynghanol Y Barri, mae’n rhaid i ymgeisyddion allu dangos y gallu i feddwl a gweithredu’n strategol, mae’n rhaid bod ganddynt brofiad o reolaeth weinyddol mewn amgylchedd cymhleth; y gallu i ddeall cyfraith a gweithdrefnau llywodraeth leol; profiad o fod yn rheolydd llinell ar staff; gwybodaeth am reolaeth ariannol; y gallu i gynrychioli’r Cyngor Tref yn llwyddiannus mewn trafodaethau gyda chyrff allanol; sgiliau TG cymwys; a pharodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant yn rheolaidd.

Er mwyn cael manylion llawn y swydd a’r disgrifiad swydd llawn, danfonwch e-bost drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen hon.

Ni dderbynnir dogfennau CV.

Dyddiad cau: Canol nos ar 19 Mehefin, 2016
Cynhelir asesiadau o’r ymgeisyddion yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 11 a 18 Gorffennaf, 2016

Mae Cyngor Tref Y Barri yn gweithio tuag at fod yn gyflogydd cyfleoedd cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.