Gweithiwr/Wraig Cefnogol (Gwasanaeth Preswyl/Hamdden)

Location
Waunfawr, Caernarfon
Salary
Cystadleuol
Posted
31 May 2016
Closes
15 Jun 2016
Ref
224945323-01
Contract Type
Contract
Hours
Part Time

Mae Antur Waunfawr yn cynnig cyfleoedd gwaith i oedolion ag anableddau dysgu ac eraill dan anfantais yn y gymuned. Er mwyn sicrhau gwasanaeth o’r ansawdd uchaf rydym yn chwilio am Gweithiwr/Wraig Cefnogol (Gwasanaeth Preswyl/Hamdden) blaengar i ymuno â’r Cwmni.

  • 1 x swydd i weithio 80 awr y mis yn unol â rota (Llun – Sul)
  • Cytundeb blwyddyn yn y lle cyntaf, gyda phosibilrwydd o estyniad

Mae’n hanfodol i’r ymgeisydd fod yn awyddus i weithio efo pobl ag anabledd dysgu mewn rôl sydd yn galluogi’r unigolyn i fyw bywyd i’w llawn botensial. Bydd deilydd y swyddi yn cefnogi’r defnyddwyr sy’n derbyn y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau byw, gwaith, hamdden a chymdeithasol. Bydd yna raglen hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Bydd yn ofynnol i’r unigolion lllwyddiannus gael trwydded yrru lawn ac yn berchen car.

Mae’r penodiadau uchod yn amodol i archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Medrwch lawrlwytho pecyn swydd ar o’n gwefan gan y botwm “Gweithredu” ar y dudalen hon.

Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2016

(This advertisement is for Support Worker posts for which fl uency in Welsh and English is essential.)