IT Systems Administrator

Location
Llandudno, Conwy
Salary
Competitive
Posted
09 May 2016
Closes
06 Jun 2016
Ref
224928002-01
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

IT Systems Administrator

The Company

Minesto is one of the world’s leading developers of innovative tidal power technology.

The company was set up in 2007 to commercialise a tidal energy converter initially invented by SAAB AB (the aircraft manufacturer). Known as ‘Deep Green’, Minesto’s device is an underwater kite designed to generate electricity by capturing power from low velocity tides and ocean currents. The company is on track to deliver its first full-scale Deep Green array. This array will be installed off the coast of Anglesey and scaled up to 10MW by 2020. Minesto is now setting up UK subsidiary to deliver the Deep Green 10MW project.

The Welsh European Funding Office (WEFO), via the European Regional Development Fund (ERDF), has awarded Minesto over €13m for the commissioning of the first full-scale power plant Minesto enjoys continued commitment from both industrial shareholders Midroc New Technology and Nordic equity firm BGA Invest.

With powerful investors, global potential and support from both the EU, Swedish and British governments we are now hiring world-class engineers. Minesto offers an inspiring technical challenge, an opportunity to take part in the product development cycle and the chance to really change the world. Are you interested? The successful candidate will be joining a pioneering team in an emerging renewable energy sector with exceptional international market potential.

Minesto is an Equal Opportunities employer, specifically committed to gender diversity in the workplace and the equal treatment and acceptance of both males and females in an organization. Minesto opposes all forms of unlawful and unfair discrimination on the grounds of age, disability, sex, gender reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or belief and marriage and civil partnerships.

From the date of appointment to June 2018 this position will be part-funded by European Regional Development Fund (ERDF) through the Welsh Government as part of Minesto’s Deep Green Project (Ref. 80848).

The Role

Your overall responsibility is to deliver a well-functioning IT-infrastructure and handling of operational performance data within Minesto.

Key Responsibilities IT-infrastructure and environment

  • Maintain Minesto office network on three locations including file servers, printers, wi-fi and internet functionality. Engage and liaise with third party subcontracted services on demand.
  • Upgrading of office networks, such as adding wi-fi hotspots and network switches, mainly due to new buildings and increased usage.
  • Administration of office and product development software, user accounts and access, email, file rights and support to users.
  • Administration of servers, backup and troubleshooting.

Key Responsibilities Development of data infrastructure

  • Operating servers that hold test data and servers for computation, analysis and development work
  • Data transfer functions from operational site to office through the internet including wireless links over open sea
  • Allow for remote connection to Deep Green control systems

Your Profile, Experience and Qualifications

  • Proven working experience as an IT administrator or relevant experience
  • Excellent knowledge of network management and of computer hardware/software systems
  • Experience in data centre management and data governance
  • University degree in within IT/technology and relevant Systems Administration/System Engineer certifications
  • Communication and documentation skills in relation to suppliers and users

Desirable

  • The ability to communicate in Welsh and Swedish would be an advantage.

 

Gweinyddwr Systemau TG

Y Cwmni

Minesto yw un o ddatblygwyr mwyaf blaenllaw'r byd o dechnoleg ynni'r llanw arloesol.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2007 i fasnacheiddio trawsnewidydd ynni'r llanw a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan SAAB AB (y gwneuthurwr awyrennau).  Mae dyfais Minesto a elwir yn 'Deep Green' yn farcud tanddwr a gynlluniwyd i gynhyrchu trydan drwy ddal pŵer o lanwau cyflymder isel a cherhyntau cefnforol. Mae'r cwmni ar y trywydd iawn i gyflawni ei aráe Deep Green ar raddfa lawn gyntaf. Bydd yr aráe hon yn cael ei gosod oddi ar arfordir Ynys Môn ar raddfa o hyd at 10MW erbyn 2020.  Mae Minesto nawr yn sefydlu is-gwmni yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno'r prosiect Deep Green 10MW.

Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), wedi rhoi dros €13m i Minesto ar gyfer comisiynu'r gwaith pŵer ar raddfa lawn gyntaf.  Mae Minesto yn mwynhau ymrwymiad parhaus gan y ddau gyfranddaliwr diwydiannol sef Midroc New Technology a BGA Invest y cwmni ecwiti Nordig.

Gyda buddsoddwyr pwerus, potensial byd-eang a chefnogaeth gan lywodraethau’r Undeb Ewropeaidd, Sweden a Phrydain rydym nawr yn barod i gyflogi peirianwyr o safon byd.  Mae Minesto yn cynnig her dechnegol ysbrydoledig, cyfle i gymryd rhan yn y cylch datblygu cynnyrch a chyfle gwirioneddol i newid y byd. Oes gennych chi ddiddordeb? Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm arloesol mewn sector ynni adnewyddadwy sy'n datblygu gyda photensial marchnadoedd rhyngwladol eithriadol.

Mae Minesto yn gyflogwr Cyfle Cyfartal, sydd yn ymrwymedig yn benodol i amrywiaeth rhyw yn y gweithle, triniaeth gyfartal a derbyn dynion a menywod mewn sefydliad. Mae Minesto yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu anghyfreithlon ac annheg ar sail oed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

O’r dyddiad penodi hyd at fis Mehefin 2018 bydd y swydd hon yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru fel rhan o Brosiect Deep Green Minesto (Cyf. 80,848).

Y Swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu datblygiad a gweinyddiaeth o fewn dau brif faes.

Yn gyntaf, seilwaith ac amgylchfyd TG y cwmni lle bydd y Gweinyddwr System TG yn gyfrifol am fanylebau gofyniadau, pryniadau a CLGau, gweithredu a chynnal amrywiol gydrannau fel caledwedd, meddalwedd a seilwaith TG perthnasol ar gyfer tri lleoliad swyddfa: Caergybi (Cymru), Gothenburg (Sweden) a safle profi yn Portaferry (Gogledd Iwerddon). Bydd cyfrifoldebau dydd i ddydd penodol hefyd yn cynnwys cymorth defnyddwyr, copïau wrth gefn, cynnal a chadw a chael copïau wrth gefn o systemau gweinyddol a gwasanaethwyr ffeil, gwasanaethau ffôn symudol a chysylltiadau gyda gwasanaethau is-gontractio trydydd parti.

Yn ail, bydd y Gweinyddwr System TG yn datblygu a chynorthwyo llif data a gynhyrchir gan y safle profi presennol ar y môr yng Ngogledd Iwerddon a safleoedd cynhyrchu yn y dyfodol yng Nghymru. Mae data perfformiad o ddatrysiad Deep Green Minesto yn adnodd allweddol mewn datblygu cynnyrch. Mae angen cyfathrebiad adatrysiad am ystorfa ddata i gael ei chysylltu o safle gweithredol i Ymchwil a Datblygu yn fewnol.

Mae’r rôl yn cynnwys teithio a phwysau gwaith uchel o bryd i’w gilydd. Mae ymuno â Minesto yn gyfle i fod yn rhan o dîm cryf a rhyngwladol mewn diwydiant arloesol. 

Cyfrifoldebau

Eich cyfrifoldeb cyffredinol yw cyflwyno seilwaith TG sy’n gweithredu ac yn trin data perfformiad o fewn Minesto yn dda.

Cyfrifoldebau Allweddol Seilwaith TG ac amgylchfyd

  • Cynnal rhwydwaith swyddfa Minesto ar dri lleoliad gan gynnwys gwasanaethwyr ffeiliau, argraffwyr, wi-fi a swyddogaeth rhyngrwyd. Ymgysylltu a chysylltu ar alw â gwasanaethau trydydd parti a is-gontractrwyd.
  • Uwchraddio rhwydweithiau swyddfa, fel ychwanegu hotspots wi-fi a chyfnewid rhwydwaith, yn bennaf oherwydd adeiladau newydd a defnyddioldeb cynyddol.
  • Gweinyddu meddalwedd swyddfa a datblygu cynnyrch, cyfrifon a mynediad defnyddwyr, e-bost, hawliau ffeiliau a chymorth i ddefnyddwyr.
  • Gweinyddu gwasanaethwyr, copïau wrth gefn a datrys problemau.

Cyfrifoldebau allweddol Datblygu seilwaith data

  • Gweithredu gwasanaethwyr sy’n dal data profi a gwasanaethwyr ar gyfer cyfrifiant, dadansoddiad a gwaith datblygu
  • Swyddogaethau trosglwyddo data o safle gweithredol i swyddfa drwy’r rhyngrwyd gan gynnwys cysylltiadau diwifr dros fôr agored
  • Caniatáu cysylltiad o bell i systemau rheoli Deep Green

Eich Proffil, Profiad a Chymwysterau

  • Profiad gwaith profedig fel gweinyddwr TG neu brofiad perthnasol
  • Gwybodaeth wych o reoli rhwydwaith a systemau caledwedd/meddalwedd cyfrifiadur
  • Profiad mewn rheoli canolfan ddata a llywodraethu data
  • Gradd brifysgol mewn TG/technoleg a thystysgrifau Gweinyddu Systemau/Peiriannu System perthnasol
  • Sgiliau cyfathrebu a dogfennu mewn perthynas â chyflenwyr a defnyddwyr  

Dymunol

  • Byddai gallu cyfathrebu yn Gymraeg a Swedeg o fantais.