Accountant

Location
Llandudno, Conwy
Salary
Competitive
Posted
09 May 2016
Closes
06 Jun 2016
Ref
224928002-01
Sectors
Accountancy
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Accountant

The Company

Minesto is one of the world’s leading developers of innovative tidal power technology.

The company was set up in 2007 to commercialize a tidal energy converter initially invented by SAAB AB (the aircraft manufacturer). Known as Deep Green, Minesto’s device is an underwater kite designed to generate electricity by capturing power from low velocity tides and ocean currents. The company is on track to deliver its first full-scale Deep Green array. This array will be installed off the coast of Anglesey and scaled up to 10MW by 2020. Minesto is now setting up UK subsidiary to deliver the Deep Green 10MW project.

The Welsh European Funding Office (WEFO), via the European Regional Development Fund (ERDF), has awarded Minesto over €13m for the commissioning of the first full-scale power plant Minesto enjoys continued commitment from both industrial shareholders Midroc New Technology and Nordic equity firm BGA Invest.

With powerful investors, global potential and support from both the EU, Swedish and British governments we are now hiring world-class engineers. Minesto offers an inspiring technical challenge, an opportunity to take part in the product development cycle and the chance to really change the world. Are you interested?

The successful candidate will be joining a pioneering team in an emerging renewable energy sector with exceptional international market potential.

Minesto is an Equal Opportunities employer, specifically committed to gender diversity in the workplace and the equal treatment and acceptance of both males and females in an organization. Minesto opposes all forms of unlawful and unfair discrimination on the grounds of age, disability sex, gender reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or belief and marriage and civil partnerships.

From the date of appointment to June 2018 this position will be part-funded by European Regional Development Fund (ERDF) through the Welsh Government as part of Minesto’s Deep Green Project (Ref. 80848).

The Role

This is an opportunity for a newly qualified accounting technician, who may have been building up their knowledge and experience of various finance roles, to join a novel company embarking on a ground breaking journey of change and innovation.  

You will initially assist the Finance Manager to migrate accounting functions from the current service provider to a newly established team in-house. This will involve the migration of data from one accounting software to another and helping establish systems, routines and controls.

As transactional accountant you will become responsible for ensuring the accuracy of the company’s accounting records and transactions. You will be answerable to the Finance Manager of Minesto UK and work with a small but focused team in Holyhead. Minesto UK is a subsidiary of Minesto AB located in Gothenburg Sweden.

Responsibilities

You will be responsible for:

  • weekly creditor payments, arranging payments and reconciling statements
  • bank reconciliations and cash flow monitoring
  • preparation and entry of month-end journals
  • monthly preparation of management accounts
  • responsible for the up keep of accounting software system.
  • preparation of quarterly VAT returns
  • exporting data from accounting system and produce detailed budgetary control reports
  • assisting in group account preparation
  • assist in the production of information and the gathering of evidence to support grant claims
  • assist in budget preparation process

Your Profile, Experience and Qualification

We are looking for a bright and motivated individual who can really help drive the business forwards, you will be an organised person who is methodical and meticulous in their approach.

You will have gained excellent excel skills and be a strong team player with a positive attitude. You will be humble, hardworking and ambitious, a person who is willing to take responsibility.

Your attention to detail will be strong and you will have desire to always learn and improve.

Key Qualifications & Experience

  • you will be AAT qualified or possess an accounting degree
  • have a minimum of 3 years’ experience
  • extensive knowledge and use of Microsoft Excel
  • experienced in Processing, checking and reconciling transactions leading to the production of timely and accurate management and statutory reports
  • experienced in the preparation of VAT returns

Desirable

  • The ability to communicate in Welsh and Swedish would be an advantage
  • Knowledge of Sage accounting software

 

Cyfrifydd

Y Cwmni

Minesto yw un o ddatblygwyr mwyaf blaenllaw'r byd o dechnoleg ynni'r llanw arloesol.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2007 i fasnachu trawsnewidydd ynni'r llanw a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan SAAB AB (y gwneuthurwr awyrennau).  Mae dyfais Minesto a elwir yn 'Deep Green' yn farcud tanddwr a gynlluniwyd i gynhyrchu trydan drwy ddal pŵer o lanwau cyflymder isel a cherhyntau cefnforol. Mae'r cwmni ar y trywydd iawn i gyflawni ei aráe Deep Green ar raddfa lawn gyntaf. Bydd yr aráe hon yn cael ei gosod oddi ar arfordir Ynys Môn ar raddfa o hyd at 10MW erbyn 2020.  Mae Minesto nawr yn sefydlu is-gwmni yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno'r prosiect Deep Green 10MW.

Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, wedi rhoi dros €13m i Minesto ar gyfer comisiynu'r gwaith pŵer ar raddfa lawn gyntaf.  Mae Minesto yn mwynhau ymrwymiad parhaus gan y ddau gyfranddaliwr diwydiannol sef Midroc New Technology a BGA Invest y cwmni ecwiti Nordig.

Gyda buddsoddwyr pwerus, potensial byd-eang a chefnogaeth gan lywodraethau’r Undeb Ewropeaidd, Sweden a Phrydain rydym nawr yn barod i gyflogi peirianwyr o safon byd.  Mae Minesto yn cynnig her dechnegol ysbrydoledig, cyfle i gymryd rhan yn y cylch datblygu cynnyrch a chyfle gwirioneddol i newid y byd. Oes gennych chi ddiddordeb? Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm arloesol mewn sector ynni adnewyddadwy sy'n datblygu gyda photensial marchnadoedd rhyngwladol eithriadol.

Mae Minesto yn gyflogwr Cyfle Cyfartal, sydd yn ymrwymedig yn benodol i amrywiaeth rhyw yn y gweithle, triniaeth gyfartal a derbyn dynion a menywod mewn sefydliad. Mae Minesto yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu anghyfreithlon ac annheg ar sail oed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

O’r dyddiad penodi hyd at fis Mehefin 2018 bydd y swydd hon yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru fel rhan o Brosiect Deep Green Minesto (Cyf. 80,848 ).

Y Swydd

Mae hwn yn gyfle i dechnegydd cyfrifyddu sydd newydd gymhwyso, ac efallai wedi bod yn meithrin gwybodaeth a phrofiadau o fewn yr adran gyllid, i ymuno â chwmni newydd sy’n cychwyn ar daith o newid arloesi.

I ddechrau, byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Cyllid i drosi swyddogaethau cyfrifyddu o’r darparwr gwasanaeth presennol i dîm mewnol newydd ei sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys symud data o un feddalwedd gyfrifyddu i un arall a chynorthwyo i sefydlu systemau, arferion a rheolaethau.  

Fel cyfrifydd gweithrediadol byddwch yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb cofnodion a thrafodion cyfrifeg y cwmni. Byddwch yn atebol i Reolwr Cyllid Minesto UK ac gweithio gyda thîm bach â ffocws, wedi sefydlu yng Nghaergybi. Mae Minesto UK yn is-gwmni o Minesto AB sydd wedi’i leoli yn Gothenburg, Sweden.

Cyfrifoldebau

Bydd gennych gyfrifoldeb cyffredinol am holl gofnodion cyfrifyddu gweithredol Minesto UK.

Cyfrifoldebau Allweddol

Byddwch yn gyfrifol am:

  • daliadau credydwyr wythnosol, trefnu taliadau a chysoni datganiadau
  • cysoniad banc a monitro llif arian
  • paratoi a chofnodi cyfnodolion ar ddiwedd mis
  • paratoi cyfrifon rheoli yn fisol
  • cyfrifol am gynnal a chadw system meddalwedd gyfrifeg
  • paratoi ffurflenni TAW chwarterol
  • allforio data o’r system gyllid a chynhyrchu adroddiadau rheoli cyllidebol
  • cynorthwyo i paratoi cyfrif grŵp
  • cynorthwyo i greu gwybodaeth a chasglu tystiolaeth i gynorthwyo hawliau grant
  • cynorthwyo gyda’r phroses o baratoi cyllidebau

Eich Proffil, Profiad a Chymhwyster

Rydym yn chwilio am unigolyn disglair a brwdfrydig a all yn wirioneddol yrru’r busnes ymlaen. Byddwch yn unigolyn trefnus sy’n dilyn methodoleg wrth weithio ac yn fanwl yn ei arddull.

Byddwch wedi ennill sgiliau Excel gwych a bod yn chwaraewr tîm cryf gydag agwedd bositif. Byddwch yn wylaidd, yn gweithio’n galed ac yn uchelgeisiol. Byddwch yn unigolyn sy’n barod i gymryd cyfrifoldeb. 

Bydd eich sylw at fanylder yn gryf a byddai gennych ddymuniad i ddysgu a gwella bob amser.

Cymwysterau a Phrofiad Allweddol

  • chymhwyster AAT neu yn meddu ar radd mewn Cyfrifeg
  • oleiaf 3 blynedd o brofiad
  • gwybodaeth a defnydd helaeth o Microsoft Excel
  • profiadol mewn prosesu, gwirio a chysoni trafodion gan arwain at greu adroddiadau rheoli a statudol amserol a chywir
  • profiad o baratoi ffurflenni TAW

Dymunol

  • Bydd y gallu cyfathrebu yn Gymraeg a Swedeg yn fanteisiol
  • Gwybodaeth am feddalwedd cyfrifyddu Sage

 

 

 

 

More searches like this