Offshore Marine Superintendent

Location
Llandudno, Conwy
Salary
Competitive
Posted
09 May 2016
Closes
06 Jun 2016
Ref
224928002-01
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Offshore Marine Superintendent

The Company

Minesto is one of the world’s leading developers of innovative tidal power technology.

The company was set up in 2007 to commercialize a tidal energy converter initially invented by SAAB AB (the aircraft manufacturer). Known as Deep Green, Minesto’s device is an underwater kite designed to generate electricity by capturing power from low velocity tides and ocean currents. The company is on track to deliver its first full-scale Deep Green array. This array will be installed off the coast of Anglesey and scaled up to 10MW by 2020. Minesto is now setting up UK subsidiary to deliver the Deep Green 10MW project.

The Welsh European Funding Office (WEFO), via the European Regional Development Fund (ERDF), has awarded Minesto over €13m for the commissioning of the first full-scale power plant Minesto enjoys continued commitment from both industrial shareholders Midroc New Technology and Nordic equity firm BGA Invest.

With powerful investors, global potential and support from both the EU, Swedish and British governments we are now hiring world-class engineers. Minesto offers an inspiring technical challenge, an opportunity to take part in the product development cycle and the chance to really change the world. Are you interested?

The successful candidate will be joining a pioneering team in an emerging renewable energy sector with exceptional international market potential.

Minesto is an Equal Opportunities employer, specifically committed to gender diversity in the workplace and the equal treatment and acceptance of both males and females in an organization. Minesto opposes all forms of unlawful and unfair discrimination on the grounds of age, disability sex, gender reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or belief and marriage and civil partnerships.

From the date of appointment to June 2018 this position will be part-funded by European Regional Development Fund (ERDF) through the Welsh Government as part of Minesto’s Deep Green Project (Ref. 80848).

The Role

As Offshore Superintendent you will assist the Offshore Operations Manager in sourcing, planning, designing and supervising of offshore operations. Including the operation & maintenance functions and design of the DG500 Kite launch and recovery systems.

You will assist in the sourcing and managing of the launch and recovery support vessel, substation vessel and mooring systems; subsea foundations and installation of the subsea umbilical, cable laying and protection/floatation.

The role offers you an opportunity to become part of a strong and international team in a pioneering industry.

Responsibilities

Your overall responsibility is to assist the Offshore Operations Manager in all offshore operations.

Key Responsibilities
• Oversee routine marine operations.
• Ensure appropriate equipment and systems are in place.
• Manage the appropriate training for all marine and related staff.
• Ensure appropriate Marine & Navigational safety procedures are in place and adhered to.
• Liaise with the appropriate marine and relevant authorities so that regulations are complied with and relevant authorities updated of operations.

Your Profile, Experience and Qualification

We are looking for an experienced, well organised and structured individual with good leadership & supervisory skills. You will be able to handle complex tasks through thorough and precise communication and planning.

Key Qualifications & Experience
• Master Mariner Class 1DTP or Marine/Engineer Degree or equivalent.
• Offshore experience, anchor handling, rig move.
• Subsea Operations, dive support, ROV support.
• Renewable experience.
• Offshore Construction experience.
• Current ENG1 and associated marine certification.

Desirable
• Project management or supervision.
• The ability to communicate in Welsh and Swedish would be an advantage.

 

Arolygydd Morol - ar y Môr

Y Cwmni

Minesto yw un o ddatblygwyr mwyaf blaenllaw'r byd o dechnoleg ynni'r llanw arloesol.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2007 i fasnachu trawsnewidydd ynni'r llanw a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan SAAB AB (y gwneuthurwr awyrennau). Mae dyfais Minesto a elwir yn 'Deep Green' yn farcud tanddwr a gynlluniwyd i gynhyrchu trydan drwy ddal pŵer o lanwau cyflymder isel a cherhyntau cefnforol. Mae'r cwmni ar y trywydd iawn i gyflawni ei aráe Deep Green ar raddfa lawn gyntaf. Bydd yr aráe hon yn cael ei gosod oddi ar arfordir Ynys Môn ar raddfa o hyd at 10MW erbyn 2020. Mae Minesto nawr yn sefydlu is-gwmni yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno'r prosiect Deep Green 10MW.

Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, wedi rhoi dros €13m i Minesto ar gyfer comisiynu'r gwaith pŵer ar raddfa lawn gyntaf. Mae Minesto yn mwynhau ymrwymiad parhaus gan ddau gyfranddaliwr diwydiannol sef Midroc New Technology a BGA Invest y cwmni ecwiti Nordig.

Gyda buddsoddwyr pwerus, potensial byd-eang a chefnogaeth gan lywodraethau’r Undeb Ewropeaidd, Sweden a Phrydain rydym nawr yn barod i gyflogi peirianwyr o safon uchel. Mae Minesto yn cynnig her dechnegol ysbrydoledig, cyfle i gymryd rhan yn y cylch datblygu cynnyrch a chyfle gwirioneddol i newid y byd. Oes gennych chi ddiddordeb? Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm arloesol mewn sector ynni adnewyddadwy sy'n datblygu gyda photensial marchnadoedd rhyngwladol eithriadol.

Mae Minesto yn gyflogwr Cyfle Cyfartal, sydd yn ymrwymedig yn benodol i amrywiaeth rhyw yn y gweithle a triniaeth gyfartal ar gyfer dynion a menywod mewn sefydliad. Mae Minesto yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu anghyfreithlon ac annheg ar sail oed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

O’r dyddiad penodi hyd at fis Mehefin 2018 bydd y swydd hon yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru fel rhan o Brosiect Deep Green Minesto (Cyf. 80,848 ).

Y Swydd

Bydd yr Arolygydd Morol yn cynorthwyo'r Rheolwr Gweithrediadau ar y Môr i gyrchu, cynllunio, dylunio a goruchwylio’r Gweithrediadau ar y Môr. Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau gweithredu a chynnal a chadw yn ogystal a dylunio systemau lansio ac adfer ar gyfer y Barcud DG500.
Byddwch yn cynorthwyo i gyrchu a rheoli'r llong cefnogi lansio ac adfer, y llong is-orsaf a’r systemau angori; y sylfeini tanfor a gosod y llinynnau cyswllt tanfor, y ceblau ac amddiffyniad /arnofio.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i chi fod yn rhan o dîm cryf a rhyngwladol mewn diwydiant arloesol.

Cyfrifoldebau

Eich cyfrifoldeb cyffredinol fydd cynorthwyo'r Rheolwr Gweithrediadau ar y Môr gyda’r holl weithrediadau ar y môr.

Cyfrifoldebau Allweddol
• Goruchwylio gweithrediadau morol cyffredin.
• Sicrhau bod cyfarpar a systemau priodol yn eu lle.
• Rheoli'r hyfforddiant priodol ar gyfer yr holl staff morol a’r staff cysylltiedig.
• Sicrhau bod gweithdrefnau diogelwch Morol a Morwriaeth priodol yn eu lle a’u bod yn cael eu dilyn.
• Cysylltu ag awdurdodau morol ac awdurdodau perthnasol eraill i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau a bod yr awdurdodau perthnasol yn cael gwybod am y gweithrediadau.

Eich Proffil, Profiad a Chymwysterau

Rydym yn edrych am unigolyn profiadol a threfnus sy’n meddu ar sgiliau arwain a goruchwylio da. Byddwch yn gallu delio â thasgau cymhleth trwy gyfathrebu a chynllunio trwyadl a manwl gywir.

Cymwysterau a Phrofiad Allweddol
• Capten Dosbarth 1DTP neu Radd Forol / Peirianneg neu gyfwerth.
• Profiad ar y môr, trin angor, symud rig.
• Gweithrediadau tanfor, cefnogi plymio, cefnogaeth ROV.
• Profiad o Ynni Adnewyddadwy.
• Profiad o Adeiladu ar y Môr
• Tystysgrif ENG1 cyfredol ac ardystiadau morol cysylltiedig.

Dymunol
• Rheoli Prosiect neu oruchwylio.
• Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Swedeg yn fanteisiol