Gweinyddwr
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Weinyddwr brwdfrydig ac ymroddedig i weithio 35 awr yr wythnos yn ein swyddfa yn CanolBwynt Cymru, Caerffili.
Teitl: Gweinyddwr
Cyfeirnod: 41176
Oriau: 35 awr yr wythnos (rhan-amser)
Lleoliad: Caerffili
Contract: Permanent / Parhaol
Cyflog: £15,037 - £17,635 (pro rata seilir ar 37.5 awr)
Pwyntiau cyflog: 14 - 20
Ynglyn â Sense
Mae Sense wedi bod yn helpu pobl sy’n fyddarddall a phobl sydd â nam ar eu golwg neu’u clyw i fwynhau bywyd mwy annibynnol ers dros 60 mlynedd. Rydym yn cynorthwyo pobl o bob oed, o blant i bobl hyn, sydd ag ystod eang o anawsterau gweld a chlywed ac anghenion cyfathrebu cysylltiedig neu anableddau dysgu ychwanegol, ac rydym hefyd yn ymgyrchu drostynt. Rydym yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth wedi’u teilwra yn ogystal â gwasanaethau arbenigol i unigolion, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.
Ynglyn â’r swydd
Fel Gweinyddwr i ni, byddwch yn darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol sy’n gynhwysfawr ac yn ymatebol ac sydd o safon. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod systemau gweinyddu yn gweithio’n hwylus, byddwch yn gyfrifol am offer y swyddfa a byddwch yn gyfrifol am oruchwylio cyllidebau (ar y cyd â’ch rheolwr llinell) er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Sense yng Nghymru yn gweithredu’n hwylus.
Sgiliau a gallu
Yn aml, chi fydd pwynt cyswllt cyntaf pobl â Sense, felly bydd angen i chi fod yn berson hyderus, agos-atoch ac effeithlon. Yn ogystal, bydd gennych sgiliau rhifedd a llythrennedd o safon dda a byddwch yn gallu gweithio’n annibynnol a dangos sgiliau datrys problemau ymarferol. Mae hon yn swydd allweddol o safbwynt sicrhau bod ein gwasanaethau yn gweithredu’n hwylus.
Dyddiad cau: Dydd Sul 8 Mai 2016
Dyddiad y cyfweliad: Dydd Llun 16 Mai 2016
Dyddiad dechrau: I’w drafod yn y cyfweliad
I WNEUD CAIS AC AM FWY O WYBODAETH:
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y sefyllfa hon ac i wneud cais, os gwelwch yn dda cliciwch ar y botwm 'Apply'. Byddwch yn cael eich cyfeirio at ein gwefan lle gallwch lawrlwytho'r pecyn gwybodaeth a llenwi'r ffurflen gais.
Mae Sense wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant ac oedolion agored i niwed, ac mae’n disgwyl i bob un o’i weithwyr ymrwymo i wneud hynny hefyd. Felly, bydd pob achos o gynnig swydd, lle bo’n briodol, yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Sense yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod ei holl staff yn frwdfrydig, yn fedrus ac yn cael boddhad o’u gwaith.
Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.