Cyfrifydd Project (2 swydd)
- Recruiter
- Bangor University*
- Location
- Bangor, Gwynedd
- Salary
- £31,656 - £46,414 y.f.
- Posted
- 25 Nov 2015
- Closes
- 18 Dec 2015
- Ref
- 224785830-01
- Sectors
- Accountancy, Admin, Secretarial & PA
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Swyddfa Ymchwil A Menter
Cyfrifydd Project (2 swydd)
Cyf: BU01037
Graddfa 7: £31,656 - £37,768 y.f. neu Raddfa 8: £38,896 - £46,414 y.f.
Mae Prifysgol Bangor, sefydliad sy’n cael ei arwain gan ymchwil ac sydd â hanes o 130 mlynedd, wedi’i lleoli mewn man godidog ar lannau’r Fenai, gyda golygfeydd dros Ynys Môn â mynyddoedd Eryri. Mae gan y Brifysgol draddodiad hir o ragoriaeth academaidd ac mae ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr ac yn y 10 uchaf o brifysgolion y DU.
Mae gan y Brifysgol hanes rhagorol o ran ennill cyllid ymchwil allanol (£23M yn 2013/14) gyda phortffolio sylweddol o brojectau a gyllidir o dan Raglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE. Wrth i ni fynd i’r cylch nesaf o gyllido o dan Raglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a’r Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru rydym yn bwriadu ehangu ein tîm o Gyfrifyddion Project i gefnogi’r mentrau hyn.
Dan oruchwyliaeth yr Uwch Gyfrifydd sy’n arwain y tîm ac yn gweithio’n agos gyda Chyfrifyddion Project eraill, byddwch yn gyfrifol am bob agwedd ar weinyddiad ariannol projectau’r Gronfa Strwythurol. Bydd hyn yn cynnwys costio projectau newydd, rhoi cyngor ac arweiniad ar reolaeth ariannol ar brojectau ac ar faterion cysylltiedig â chymhwyster, monitro’r gyllideb, paratoi ceisiadau am grantiau a chysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Byddwch hefyd yn gyfrifol am lunio a chyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio system gyflwyno ar-lein WEFO ac am reolaeth ddilynol o’r holl ofynion archwilio.
Mae datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith rhagorol â chydweithwyr academaidd a mynd ati’n unswydd i gyfrannu at dimau’r projectau a chysylltu â hwy yn rhan bwysig o’r swydd hon.
Byddwch yn gyfrifydd sydd newydd ymgymhwyso neu’n meddu ar gymhwyster canolradd gan gorff a gydnabyddir gan CCAB ac wedi derbyn addysg at safon radd. Bydd y cyflog ar Raddfa 7 neu Raddfa 8 yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad. Bydd penodi ar Raddfa 8 yn golygu cyfrifoldebau rheoli llinell yn y tîm.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio gan y botwm “Gweithredu” ar y dudalen hon.
Ond mewn achosion lle ceir trafferth i ddefnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: ddydd Gwener 18 Rhagfyr, 2015
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal