Rheolwr Ardal Gwasanaethau Rhanbarthol

Recruiter
Whizz Kidz
Location
Gweithio o gartref – Cymru
Salary
£33,000-£37,000 + buddion
Posted
01 Apr 2015
Closes
10 Apr 2015
Contract Type
Contract
Hours
Full Time

Rheolwr Ardal Gwasanaethau Rhanbarthol – Cymru
Gweithio o gartref – Cymru
37.5 Oriau yr wythnos
£33,000-£37,000 + buddion
Cyfnod Penodol hyd 30 Medi 2016

Dyddiad Cau: 17.00, Dydd Gwener 10 Ebrill 2015

Oes gennych chi gefndir mewn darpariaeth ar gyfer pobl ifainc ac agwedd meddwl masnachol?  Allwch chi ddatblygu a rhoi gwasanaethau hyfforddi mewn grym, arwain timau staff a rheoli ardal ranbarthol eang?  Os felly, fe allech ehangu gwasanaethau cefnogi gan dorri tir newydd ar gyfer pobl ifainc anabl, ar ran un o brif elusennau cenedlaethol i blant.

Yn ‘Whizz-Kidz, rydyn ni’n credu bod gan bob person ifanc anabl yr hawl i gael plentyndod bywiog, llawn hwyl, a’r cyfle i datblygu i’w llawn botensial mewn bywyd.  Ein perwyl ni yw trawsnewid eu bywydau trwy ddarparu’r offer, y gefnogaeth a’r medrau byw sydd eu hangen arnyn nhw, ar yr adeg y byddan nhw eu hangen.  Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu cyfeillgarwch a chael hwyl a chael hyfforddiant i’w helpu i gael medrau i fod yn annibynnol ac erdych ymlaen at ddyfodol disglair.  Wedi’i ariannu gan y Lotri Genedlaethol trwy gyfrwng Cronfa’r Lotri Fawr, mae ein gwasanaethau yn benderfynol o wneud mwy o wahaniaeth nag erioed o’r blaen.

Rydyn ni’n torri tir newydd, yn gyrru cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol yn eu blaenau ac mae arnon ni angen recriwtiaid sy’n rhannu ein hagwedd egnïol, gydweithrediadol ac yn awyddus i ymuno â thîm fydd yn trawsnewid bywydau ifainc.

Eich her: Fe fyddwch yn datblygu ein rhwydwaith o Glybiau Llysgenhadon, gwasanaethau Hyfforddi Medrau Cadair Olwyn, Gwersylloedd Preswyl a Lleoliadau Gwaith ledled Cymru.  Gan reoli tîm bychan o Gydlynwyr Gwasanaethau Rhanbarthol, fe fyddwch yn sicrhau eu bod yn darparu ffordd o weithredu gymunedol gyfundrefnus ar gyfer y gwasanaethau, gan gyflawni yn ôl ein nodau, sy’n cael eu datgan yn nawdd Dyfodol Disglair trwy gyfrwng y Lotri Fawr.  Fe fyddwch hefyd yn darparu’r hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i feithrin a datblygu rhwydweithiau o wirfoddolwyr ac arweinwyr ifainc.

Eich proffil: Rydyn ni’n chwilio am rywun a chanddo radd neu gymhwyster cyfatebol, mewn perthynas â chefnogi datblygiad personol plant a phobl ifainc neu sydd yn gymwys trwy brofiad mewn darparu ar gyfer pobl ifainc.  Gyda chefndir o weithio’n uniongyrchol â phobl ifainc a datblygu medrau a hyfforddiant ffordd o fyw ar eu cyfer, mae’n rhaid bod gennych chi hanes blaenorol da am reoli pobl, prosiectau a chyllidebau.

Mae pobl ifainc anabl wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni’n ymdrechu i gynnwys eu hanghenion, eu barn a’u profiadau yn ein holl waith, gan roi cyfrifoldeb iddyn nhw i helpu ffurfio yr hyn rydyn ni’n ei wneud.  Os ydych chi’n meddwl yr un fath â ni, fe ddylen ni weithio gyda’n gilydd.

Am Ddisgrifiad Swydd , Manyleb y Person ac i Wneud Cais am Rôl hwn , cliciwch ar y botwm Gwneud cais . Fel arall, ffoniwch 020 7233 6600.

Dim asiantaethau recriwtio, os gwelwch yn dda.

Sylwch ; Byddwn yn cysylltu â dim ond ymgeiswyr sy'n llwyddo i gael cyfweliad . .

Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni cyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth.

‘Whizz-Kidz yw enw masnachol Y Mudiad ar gyfer Plant sy’n Methu Symud (Whizz-Kidz).  Rhif elusen gofrestredig 802872.  Rhif cwmni cofrestredig Cymru a Lloegr 2444520.  Rhif cofrestredig elusen yn Yr Alban SC042607