Rheolwr Canolfan Gofal Dementia

Recruiter
Parc Pendine*
Location
Caernarfon, Gwynedd
Salary
Competitive
Posted
31 Oct 2014
Closes
30 Nov 2014
Ref
224383368-01
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Bryn Seiont Newydd, Caernarfon

Rheolwr Canolfan Gofal Dementia

Cyfle cyffrous i Reolwr profiadol sy’n chwilio am sialens newydd.

Bydd Bryn Seiont Newydd yn Ganolfan Gofal Dementia arbenigol gyda 71 o wlâu. Mae’r ganolfan yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, a’r bwriad yw y bydd yn agor ym mis Medi 2015. Rydym nawr yn bwriadu penodi gweithiwr proffesiynol profiadol a brwdfrydig er mwyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gael rhoi ei stamp ar yr holl agweddau sy’n ymwneud ag adeiladu a gweithredu’r ganolfan.

Fel Rheolwr yn y Ganolfan, byddwch yn ymuno â thîm cryf a chefnogol a byddwch yn gyfrifol am redeg y Ganolfan o ddydd i ddydd, gan gyfoethogi bywydau a darparu gofal o safon. Dylech fod yn frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy sicrhau eich bod yn mabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn llawn. Byddwch yn gyfrifol am recriwtio a datblygu tîm o staff sydd wedi’u hyfforddai’n dda, sy’n llawn cymhelliant ac sy’n cael eu gwerthfawrogi. Byddwch yn ysgwyddo rôl arweinydd gweithredol yn frwdfrydig, gydag ymrwymiad a byddwch yn bresenoldeb gweladwy iawn yn fewnol ac yn allanol.

Mae cymhwyster Nyrsio RN3 (RMN) a phrofiad blaenorol o gyflyrau iechyd meddwl a dementia cymhleth yn hanfodol, yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Pecyn tâl ardderchog.

I wneud cais, anfonwch CV a llythyr neu e-bost esboniadol at: Gwynfor Jones, Canolfannau Gofal Parc Pendine, Summerhill Road, Wrecsam, LL11 4YE

Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2014 am 10.00yb.

(The above is an advertisement for the post of Dementia Care Centre Manager at Bryn Seiont Newydd, Caernarfon for which the ability to communicate in Welsh and English is essential).