Aelodau’r Panel Addasrwydd i Ymarfer
- Recruiter
- Gatenby Sanderson
- Location
- Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
- Salary
- £353 per day (or £176.50 per half day)
- Posted
- 23 Oct 2014
- Closes
- 18 Nov 2014
- Sectors
- Health, Nursing & Social Care
- Contract Type
- Temporary
- Hours
- Part Time
Aelodau’r Panel Addasrwydd i Ymarfer
Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yw’r corff rheoli ar gyfer dros 108,000 o weithwyr deintyddol proffesiynol yn y DU. Mae gan aelodau’r Panel Addasrwydd i Ymarfer rôl hanfodol yn ein gwaith i ddiogelu cleifion. Mae gennym y pŵer i weithredu wrth ddileu neu gyfyngu cofrestriad gweithiwr proffesiynol deintyddol os nad ydynt yn cwrdd â’r safonau uchel a ddisgwylir. Mae aelodau’r panel yn cymryd rhan mewn gwrandawiadau cyhoeddus ac yn ystyried achosion lle mae’n bosibl bod addasrwydd gweithiwr proffesiynol deintyddol yn ddiffygiol oherwydd eu hymddygiad, perfformiad, neu iechyd. Mae aelodau’r panel hefyd yn gwrando ar geisiadau adfer i’r cofrestri ac apeliadau yn erbyn penderfyniadau cofrestru.
Rydym nawr yn ceisio penodi aelodau o’r cyhoedd (lleyg), deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol i’r rolau hanfodol hyn. I fod yn llwyddiannus fel aelod o’r panel, bydd gennych sgiliau dadansoddol a barn wych ac yn gyfathrebwr medrus. Byddwch yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm a gwneud penderfyniadau rhesymegol ac ar brydiau, heriol iawn. Rydym yn chwilio am unigolion ymrwymedig i’n helpu i sicrhau diogelwch cleifion ac sy’n ystyried eu gwaith gyda gonestrwydd a gwrthrychedd.
Os oes diddordeb gennych i gael mwy o fanylion am y cyfleoedd gwerthfawr hyn, ewch i’n gwefan recriwtio www.gdcpanelappointments.com lle byddwch yn gallu cael gwybodaeth lawn am y rolau. Mae’n rhaid gwneud ceisiadau ar-lein drwy’r wefan hon.
Ffoniwch ein hymgynghorwyr recriwtio GatenbySanderson, 0113 205 6090 yn unig os oes angen y pecyn gwybodaeth arnoch mewn fformat arall. Dyddiad cau: dydd Mawrth, Tachwedd 18fed 2014 am hanner dydd.
Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb