Media and Communications Officer / Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu
Pwy ydym ni Sefydliad byd-eang yw Oxfam sy’n gweithio gyda dros 1,000 o bartneriaid mewn mwy na 70 gwlad i roi terfyn ar dlodi a dioddefaint. Mae Oxfam yn credu, mewn byd sy’n gyfoethog o ran adnoddau, nad ffeithiau bywyd mo’r rhain, ond anghyfiawnderau y dylid rhoi terfyn arnynt. Rydym yn falch o’r gwahaniaeth yr ydym wedi’i wneud yn barod, drwy ein rhaglenni datblygu hirdymor a chymorth hanfodol mewn argyfwng. Nawr, rydym yn chwilio am Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu newydd i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â goresgyn heriau dyngarol dros y byd i gyd.
Y rôl
Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Oxfam Cymru ac Oxfam GB, byddwch yn ysbrydoli strategaethau creadigol ar gyfer gwaith ymgyrchu yn y cyfryngau ac yn sicrhau y rhoddir sylw i ni yn y wasg, mewn print ac ar sianelau rhyngweithiol a darlledu. Ymhellach, byddwch yn gweithio ar feithrin cysylltiadau gyda chynrychiolwyr enwog, yn gweithredu fel ein prif lefarydd gyda’r cyfryngau, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn pennu cyfryngau newydd i hybu achos Oxfam ymhellach.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Bydd gennych ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ynghyd â sgiliau trafod a dylanwadu rhagorol, a byddwch yn ysbrydoli golygyddion, newyddiadurwyr a’n cefnogwyr yng Nghymru i weithio gyda ni a sicrhau newid parhaol. Bydd gennych frwdfrydedd tuag at, a gwybodaeth am ddatblygu rhyngwladol, materion dyngarol a thlodi yng Nghymru. Byddwch hefyd yn gallu herio syniadau confensiynol a chynnig safbwyntiau unigryw, gan ddod â’r gallu i ddod o hyd i wybodaeth gymhleth o ffynonellau amrywiol a rhoi sylw iddynt mewn modd creadigol. Ac yn olaf, byddwch yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg, ac yn gallu siarad ac ysgrifennu’n hyderus ac i safon uchel yn y ddwy iaith.
I ymgeisio Yn Oxfam, rydym yn credu y gall pob agwedd ar ein gwaith arwain at ganlyniad cadarnhaol. Os ydych chwithau’n credu’r un fath, ac yn meddu ar y gallu i gwrdd â’r heriau dan sylw, mae’r swydd hon yn cynnig cyflawniad personol aruthrol - yn ogystal â chyfleoedd eithriadol i ddatblygu eich gyrfa.
GWNEWCH EICH CAIS YN SAESNEG, OS GWELWCH YN DDA.
Dyddiad cau: 30 Medi 2014
Cyfweliadau: 8 Hydref 2014, Caerdydd
For more information and to apply, visit jobs.oxfam.org.uk quoting reference CAP0087